Llywodraeth Cymru

Cynhaliwyd cynhadledd rithiol Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 dros 5 diwrnod rhwng 4 ac 8 Rhagfyr i gyd-fynd â COP28. Yn ystod yr wythnos, gwyliodd dros 4,400 o bobl sesiynau COP28, lle bu 30 o gadeiryddion a 95 o siaradwyr yn ystyried y cwestiwn "Sut ydym yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd mewn ffordd deg?".

Roedd yr wythnos yn cyd-daro â dyddiad cyhoeddi ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar 'Fframwaith Pontio Teg' newydd ac yn rhoi sylw i effeithiau anghymesur y newid yn yr hinsawdd ar wahanol bobl, grwpiau a lleoedd, gan ystyried sut allwn ni sicrhau bod y buddion sy'n gysylltiedig â pholisïau hinsawdd yn cael eu dosbarthu'n deg ar draws cymdeithas. 

Mae crynodeb o raglen y gynhadledd rithiol wedi'i ddarparu isod, gan gynnwys dolenni at recordiadau o'r sesiynau, fel y gallwch eu gwylio ar alw.

 

Hygyrchedd          Cwcis         Datganiad hawlfraint       Polisi preifatrwydd gwefan       Telerau ac amodau

                                                                                               Cysylltwch â ni:​ climatechange@gov.wales