Ewch i wefan yma am enghreifftiau o weithredoedd syml, bob dydd sy’n fan cychwyn da i ni i gyd o ran lleihau ein heffaith ar y blaned. Yn trafod agweddau fel ynni gwyrdd, trafnidiaeth, bwyd a dewisiadau dyddiol, mae’r wefan yn llawn gweithredoedd y gallwn ni eu gwneud ar lefel aelwyd i wneud gwahaniaeth. Mae hefyd yn egluro’r gwaith a wna Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau gwyrdd yn haws, yn fwy cyfleus a fforddiadwy i bobl Cymru.
Nod yr ymgyrch Addewid Hinsawdd yw annog gweithredu gan lywodraethau, busnesau a chymunedau er mwyn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Ei nod yw dangos ymrwymiad i weithredu mewn amrywiaeth o ffyrdd i sicrhau cyfranogiad ar draws y gymdeithas.
Gwnewch eich addewid a gofynnwch i eraill weithredu a gwneud eu haddewid eu hunain drwy fynd i yma.