Llywodraeth Cymru

Agor Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 (Llywodraeth Cymru)

Roedd y sesiwn hon yn gosod cyd-destun Wythnos Hinsawdd Cymru. Wrth i arweinwyr y byd ddod at ei gilydd ar gyfer COP28 yn Dubai, roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau tegwch yn y trawsnewidiad i Sero Net ar lefel Cymru a byd-eang.

Siaradwyr:

Julie James AS. Gweinidog Newid Hinsawdd.

Chris Stark. Prif Weithredwr. Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Libby Ferguson. Cyfarwyddwr Arloesi ac Effaith. Grŵp Hinsawdd.

Gwersi Byd-eang: Llywio Cyfnod Pontio Teg (Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol)

Bu'r sesiwn hon yn archwilio'r heriau rydym yn eu hwynebu oherwydd yr argyfyngau hinsawdd a natur a sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain mewn ffordd gyfiawn a theg, gan ganolbwyntio ar swyddi a sgiliau. Ystyriwyd enghreifftiau o arfer da a chynnydd ar lefel ryngwladol  - gan gynnwys heriau a chyfleoedd cyffredin. 

Siaradwyr:

Rhiannon Hardiman. Gwneuthurwr Newid. Natur, Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Ben Burggraaf. Prif Swyddog Gweithredol. Diwydiant Sero Net Cymru.

Diandra Ni Bhuachalla. Cynrychiolydd Ieuenctid EESC i COP28 a COP29 Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol Iwerddon.

Melisa Cran. Rheolwr Rhaglen RegionsAdapt. Regions4.

Diwylliant, Creadigrwydd a’r Newid yn yr Hinsawdd (Llywodraeth Cymru)

Mae'r sectorau diwylliant a threftadaeth yng Nghymru yn dod ag ymatebion creadigol i heriau newid hinsawdd. Mae'r sesiwn hon yn ystyried effaith newid hinsawdd ar ddiwylliant, dangos sut mae pobl greadigol yn ymateb i broblemau, a dangos sut mae ein sectorau yn cyfleu straeon newid hinsawdd.

Siaradwyr:

Dr Lana St Leger Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Strategol. Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ophelia Dos Santos. Dylunydd Tecstilau ac Addysgwr. Gweithiwr llawrydd.

Bill Hamblett Theatr Small World.

Cheryl Beer. Artist Sain Amgylcheddol.

Jacob Ellis. Gwneuthurwr Newid Arweiniol ar gyfer Materion Cyhoeddus a Gwaith Rhyngwladol Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Pobl Ifanc a Gweithredu dros yr Hinsawdd mewn Ysgolion

Amlygodd y sesiwn hon sut y gall addysg annog pobl i newid eu hagweddau a'u hymddygiad, gwneud penderfyniadau gwybodus a grymuso ac ysgogi pobl i gymryd camau mewn perthynas â’r hinsawdd. 

Siaradwyr:

Kate Strong. Anturiaethwr-Actifydd Hinsawdd.

Joe Wilkins. Pennaeth Ymgyrchoedd. UK Youth for Naturee

Bryony Bromley. Rheolwr Addysg ac Ysgolion Eco Cymru. Cadwch Gymru'n Daclus.

Rocio Cifuentes. Comisiynydd Plant Cymru.

Arweinyddiaeth Newid Hinsawdd y Sector Cyhoeddus (CLlLC)

Roedd y sesiwn hon yn edrych ar arweinyddiaeth o ran newid hinsawdd yn y sector cyhoeddus: 'Not the usual suspects' - Gwaith arloesol ac archwiliadol sy'n digwydd ar hyn o bryd ledled Cymru. 

Siaradwyr:

Derek Walker. Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Megan Byrne. Ymgynghorydd Arweiniol.  Miller Research.

Daniel Wheelock. Swyddog Polisi. Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Bethan Richardson. Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd. Cyngor Gwynedd.

Tim Peppin. Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy. CLlLC.

Nick Morgan. Cyfarwyddwr Cyswllt.  Miller Research.

Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035 a Phontio Cyfiawn i Gymru (Grŵp Her Sero Net Cymru 2035)

Roedd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar yr ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithredu ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i archwilio llwybrau posibl i sero net erbyn 2035. https://netzero2035.wales/

Siaradwyr:

Jane Davidson. Cadeirydd. Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035.

Andy Regan. Cyd-gadeirydd. Sut y gallai Cymru wresogi ac adeiladu cartrefi erbyn 2035.

Dr Jennifer Rudd. Cyd-gadeirydd. Sut y gallai addysg, swyddi a gwaith edrych ar draws Cymru erbyn 2035.

Stan Townsend. Ysgrifennydd. Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035.

[]

 

Hygyrchedd          Cwcis         Datganiad hawlfraint       Polisi preifatrwydd gwefan       Telerau ac amodau

                                                                                               Cysylltwch â ni:​ climatechange@gov.wales