Llywodraeth Cymru

Telerau ac amodau

Mae https://www.climateweek.gov.wales/CY/pages yn wefannau sy’n cael eu rheoli gan Freshwater, ar ran Llywodraeth Cymru. Cyfeirir atom o hyn ymlaen fel ‘Ni’. Wrth fynd i mewn i’n safle rydych chi'r defnyddiwr (’Chi’) yn derbyn ein Telerau ac Amodau. Mae platfform digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael ei gynnal ar gyfer eich defnydd personol a’ch gwylio. Trwy gyrchu a defnyddio’r safle hwn rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy’n dod i rym o ddyddiad y defnydd cyntaf.

Llywodraeth Cymru yw'r Rheolydd Data a Freshwater (FW) yw'r Prosesydd Data ar gyfer y wybodaeth a gyflwynwyd drwy wefan Wythnos Hinsawdd Cymru, ynghyd ag unrhyw wybodaeth a rannwyd neu recordiadau a wnaed yn ystod rhaglen y digwyddiad cysylltiedig. Mae Llywodraeth Cymru ac FW wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU).  Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru drwy e-bost DataProtectionOfficer@gov.wales.

Mae gan Freshwater Swyddog Diogelu Data, ac mae modd cysylltu â hi drwy e-bost charlotte.homa@freshwater.co.uk

Hypergysylltu â ni

Nid ydym yn gwrthwynebu i chi greu dolenni uniongyrchol i’r wybodaeth sydd ar ein safle. Fodd bynnag, byddai'n well gennym pe na bai ein tudalennau'n cael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Dylai tudalennau gwe Wythnos Hinsawdd Cymru lwytho i mewn i ffenestr gyfan y defnyddiwr. Fodd bynnag, byddai'n well gennym pe na bai ein tudalennau'n cael eu llwytho i fframiau ar eich safle.

Os yw perchnogion porth gwe am gynnwys tudalennau gwe Wythnos Hinsawdd Cymru o fewn safle porthol yna anfonwch neges i walesclimateweek@freshwater.co.uk. Dylech gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost a disgrifiad o'ch safle porthol.

Cofrestru defnyddiwr

I gofrestru ar gyfer digwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru, mae angen i chi gofrestru ar blatfform y digwyddiad. 

Pa wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi?

Gall y wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn cofrestru ar gyfer digwyddiad Llywodraeth Cymru gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, lleoliad dewisol ac enw eich sefydliad (os yn berthnasol). Er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’r digwyddiad(au) yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer yn unig y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon.

Gall y wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn cofrestru ar gyfer digwyddiad Llywodraeth Cymru gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, eich lleoliad ac enw eich sefydliad (os yn berthnasol). Er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’r digwyddiad(au) yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer yn unig y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon.

Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

  • Gwneud y mwyaf o wefan digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru 

  • Monitro lefelau cofrestriadau i’r digwyddiad(au).

  • Monitro pa sefydliadau sy’n defnyddio pecyn cymorth rhanddeiliaid Pecyn Cymorth Hyrwyddol Wythnos Hinsawdd Cymru​.​

  • Os ydych yn cyflwyno cais i gynnal digwyddiad ymylol, bydd y manylion yn cael eu hadolygu gan Freshwater a Llywodraeth Cymru er mwyn pennu addasrwydd y cais.

  • Anfon negeseuon e-bost atgoffa i bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru.

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd i gael gwybodaeth bellach.

Ar ôl i chi gofrestru byddwch yn cael nodiadau atgoffa am ddigwyddiad(au) rydych eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan ynddynt a gofynnir i chi gwblhau ffurflen werthuso ar ôl y digwyddiad trwy e-bost. Os hoffech chi optio allan o’r nodiadau atgoffa trwy e-bost, anfonwch neges i: walesclimateweek@freshwater.co.uk.

Pwy sy'n cael eich gwybodaeth?

Freshwater yw’r prif brosesydd data ar gyfer data a gasglwyd drwy wefan digwyddiad Lansio Wythnos Hinsawdd Cymru 2023. Rydym hefyd yn defnyddio proseswyr trydydd parti ac felly efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â nhw. Bydd prosesu’r wybodaeth hon yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd partïon. Mae'r proseswyr trydydd parti a ddefnyddiwn fel a ganlyn:

Cwcis 

Mae gwefan Eventscase yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth anhysbys ynglŷn ag ymddygiadau ymwelwyr.

Darnau bychain o wybodaeth yw cwcis a gedwir ar eich cyfrifiadur gan wefannau. Mae’r rhain fel arfer yn cael eu defnyddio gan wefannau i gofio dewisiadau, neu i ddarparu hysbysebion mwy penodol a pherthnasol yn seiliedig ar ymddygiadau ar-lein. 

Pan mae rhywun yn ymweld â gwefan digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol am ymweliadau safle trwy gwcis. Rydym yn gwneud hyn i gael gwybod mwy am batrymau ymddygiad cyffredinol, megis nifer yr ymwelwyr i wahanol rannau’r safle. Dim ond mewn ffordd sy’n cadw hunaniaeth bersonol yn anhysbys y prosesir y wybodaeth hon. Nid ydym yn gwneud, nac yn caniatáu Google i wneud, unrhyw ymgais i ganfod hunaniaeth y rhai sy’n ymweld â’n gwefan.

Mae Llywodraeth Cymru a Freshwater wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd

Fel y nodwyd, rydym yn defnyddio cwcis sy’n hanfodol i reolaeth ein gwasanaethau a gwefan, sydd hefyd yn gwella eich profiad pori. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r cwcis hyn wedi’i rhestru isod, fodd bynnag mae eich defnydd parhaus o’r safle heibio’r fan hon yn golygu eich bod yn derbyn y defnydd o gwcis gan:

·       Eventscase ar gyfer cynnal llwyfan ar-lein Wythnos Hinsawdd Cymru, rheoli cofrestriadau, recordio cynnwys ystafell sgwrsio, derbyn ceisiadau digwyddiadau ymylol ac addewidion.

·       Google Analytics, i’n helpu ni i wella a chael y mwyaf o lwyfan ar-lein Wythnos Hinsawdd Cymru.

Darllenwch ein datganiad cwcis i gael rhagor o wybodaeth.

O’r wefan hon

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau y ceir dolenni iddynt. Ni ddylid ystyried bod eu rhestru yn eu cymeradwyo. Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd tudalennau y ceir dolenni iddynt.

Diogelu rhag firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-firysau ar yr holl ddeunydd a gaiff ei lawrlwytho o'r Rhyngrwyd.  Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, achos o darfu neu ddifrod i'ch data na'ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a ddaw o wefannau Llywodraeth Cymru.

Ymwadiad

Darperir gwybodaeth platfform Wythnos Hinsawdd Cymru (neu wybodaeth trydydd parti) 'fel y mae' heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth, a heb warantiad o unrhyw fath, p'un a yw'n ddatganedig neu'n oblygedig. Ni allwn warantu na fydd tarfu ar y swyddogaethau sydd wedi'u cynnwys yn y deunydd ar y wefan hon, nac ychwaith y byddant yn rhydd rhag camgymeriadau, nac y caiff diffygion eu cywiro, nac y bydd y wefan hon na'r gweinydd sy'n ei galluogi i fod ar gael yn rhydd rhag firysau nac yn cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau.

Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

 

Hygyrchedd          Cwcis         Datganiad hawlfraint       Polisi preifatrwydd gwefan       Telerau ac amodau

                                                                                               Cysylltwch â ni:​ climatechange@gov.wales