Roedd y sesiwn hon yn edrych ar effaith newid i gludiant sero allyriadau, gan gynnwys goblygiadau newid i geir sero allyriadau a systemau trafnidiaeth wedi'u datgarboneiddio.
Siaradwyr:
Gideon Salutin. Ymchwilydd. Social Market Foundation.
Marc Palmer. Pennaeth Strategaeth a Mewnwelediadau. AutoTrader.
Huw Davies. Rheolwr Prosiect Dyffryn Caredig. Partneriaeth Ogwen.
Esboniodd arbenigwyr y rôl y bydd hydrogen yn ei chwarae yn y dyfodol o ran diogelu symudedd a mynediad teg i drafnidiaeth i bawb yng Nghymru ar y llwybr at Sero Net.
Siaradwyr:
Steffan Eldred. Arweinydd Arloesi – Trafnidiaeth Hydrogen a Cherbydau Sero Allyriadau. Innovate UK.
Jon Constable. Prif Swyddog Gweithredol. Protium.
James Alton. Uwch Ymgynghorydd Stoc Rheilffyrdd. Arup.
Ben George. Datblygu strategol. Trafnidiaeth Cymru.
Sesiwn graff yn edrych ar fanteision cerdded, olwyno a beicio, a gwahanol brosiectau a chynlluniau teithio llesol sy'n cael eu cyflawni ledled Cymru.
Siaradwyr:
Phil Lewis. Cadeirydd. Active Wheels.
Dafydd Trystan. Cofrestrydd. Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Jonny Eldridge. Cydlynydd Prosiect, Dinasoedd Trigiadwy. Sustrans Cymru.
Charlie Gordon. Swyddog Teithio Iach. Sustrans Cymru.
Hannah Atkins. Cydlynydd Ysgolion. Living Streets.
Catherine Purcell Darllenydd (Uwch Academaidd). Prifysgol Caerdydd.
Mae cymunedau ledled Cymru ar flaen y gad o ran datblygu gwasanaethau trafnidiaeth gynaliadwy sy'n diwallu anghenion eu cymunedau lleol. Cafwyd mewnwelediad i brofiad un gymuned o nodi materion lleol a datblygu eu datrysiadau trafnidiaeth arloesol eu hunain.
Siaradwyr:
Gemma Lelliott. Cyfarwyddwr Cymru. Cymdeithas Cludiant Cymunedol.
Huw Davies. Rheolwr Prosiect Dyffryn Caredig. Partneriaeth Ogwen.
Yn y cyflwyniad hwn, edrychwyd ar gyd-destun y tair blaenoriaeth trafnidiaeth sydd yn y Llwybr Newydd (Strategaeth Trafnidiaeth Cymru), gan gynnwys themâu newid dull a blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, ac ystyried sut y gall darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan eistedd orau o fewn y cyd-destun polisi hwn yng Nghymru.
Siaradwyr:
Steve Ward. Rheolwr Rhaglen Datgarboneiddio. Trafnidiaeth Cymru.
Rachel Lewis. Rheolwr Prosiect EV yn y Tîm Datgarboneiddio. Trafnidiaeth Cymru.
Er mwyn i brosiectau datgarboneiddio lwyddo, rhaid ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid i sicrhau canlyniadau teg a chadarnhaol. Yn y sesiwn hon, cafwyd eglurhad o’r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen i ymgysylltu â chymunedau, cydweithwyr, cyflenwyr a rhanddeiliaid eraill i symud prosiectau datgarboneiddio yn eu blaenau tra’n sicrhau y gwrandewir ar bob llais.
Siaradwyr:
Hayley Lancaster. Rheolwr Trawsnewid – Ymgysylltu. Cyngor Caerffili.
Victoria Camp. Arweinydd Strategol. Gwasanaeth Ynni.
Eva Casadevall. Rheolwr Marchnata Partner. Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gylch gorchwyl amrywiol i fynd i'r afael â rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy. Roedd y sesiwn hon wedi’i hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb o ran sut i ystyried trosglwyddiad teg a chyfiawn o safbwynt addasu yng Nghymru.
Siaradwyr:
Dr Clive A. Walmsley. Uwch Gynghorydd Arbenigol: Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio. Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ross Akers. Cyfoeth Naturiol Cymru. Rheolwr Cynllunio Strategol a Buddsoddiad - Perygl Llifogydd.
Dr Nicky Rimington. Cynghorydd Arbenigol Arweiniol - Proses Ffisegol Forol ac Arfordirol a Rheoli Arfordirol. Cyfoeth Naturiol Cymru.
Peter Frost. Cynghorydd Seilwaith Gwyrdd Trefol. Cyfoeth Naturiol Cymru.
Olivia Shears. Uwch Ddadansoddwr. Pwyllgor Newid Hinsawdd.