Sefydliad sy'n Croesawu: Down to Earth
Lleoliad: Little Bryn Gwyn, Cillibion, ger Llanrhidian, Abertawe SA3 1BG
Disgrifiad: Mae Down to Earth yn cynnal tri gweithdy ymarferol sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gwydnwch cymunedol a strategaethau arloesol i addasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd. Cynhelir y digwyddiadau hyn mewn lleoliadau syfrdanol sy'n arddangos dyluniad bioffilig a deunyddiau naturiol i greu seilwaith cymunedol cynaliadwy, ac mae'r digwyddiadau hyn yn darparu enghreifftiau byd go iawn o sut y gall dulliau ymarferol, cymunedol leihau effeithiau hinsawdd. Dan arweiniad hwyluswyr arbenigol, bydd y sesiynau’n canolbwyntio ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, gan bwysleisio gweithredu unigol a chymunedol, tegwch, a chyfiawnder cymdeithasol. Gyda’r nod o ysbrydoli cymunedau ymylol yng Nghymru, bydd y gweithdai’n arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy ddatblygu cynaliadwy a arweinir gan y gymuned ac yn dangos sut mae gweithredu ar y cyd o fudd i bobl a’r blaned. Bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i drafod pryderon lleol ac adnabod adnoddau i gryfhau gwydnwch cymunedol. Gyda’i gilydd, bydd cyfranogwyr yn archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gefnogi cymunedau i feithrin gallu ymaddasol.
Sefydliad sy'n Croesawu: Hinaswdd ein Hystafell Ddosbarth (OCC Action)
Lleoliad: Stadiwm Caerdydd
Disgrifiad: Sut rydym yn ymgysylltu â phobl iau Caerdydd i ddeall newid hinsawdd yn well. Pa ran allwn ni ei chwarae wrth weithredu a lliniaru newid yn yr hinsawdd yn lleol ac yn genedlaethol
Y Sefydliad sy’n cynnal y Digwyddiad: Ysgol Y Dderi and Ysgol Bro Pedr
Lleoliad: Ysgol Y Dderi and Ysgol Bro Pedr, Ceredigion
Disgrifiad: Mae disgyblion Ysgol Y Dderi ac Ysgol Bro Pedr yng Ngheredigion yn gyffrous i fod yn cymryd rhan yn Sgwrs Hinsawdd 2024 fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru. Bydd gennym holiaduron, trafodaethau grŵp, prosiectau posteri a gyda'n gilydd, byddwn yn archwilio'r cwestiynau mwy. Bydd meddyliau, syniadau, pryderon a chwestiynau'r plant a'r bobl ifanc i gyd yn cael eu casglu er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn y gymysgedd hefyd!