Llywodraeth Cymru

Grymuso busnesau i feithrin dyfodol mwy gwyrdd (Diwydiant Net Sero Cymru)

Mae Diwydiant Sero Net Cymru (NZIW) yn gorff nid-er-elw sy'n darparu arweiniad a chefnogaeth annibynnol i ddiwydiannau ledled Cymru, wrth iddynt drosglwyddo i ddarparu sero net. Roedd y sesiwn hon wedi'i hanelu at fusnesau ac unigolion sydd naill ai eisiau cychwyn eu siwrnai eu hunain   tuag at Sero Net ond sydd ddim yn gwybod ble i ddechrau, neu rai sydd wedi cychwyn ar eu siwrnai ac sydd eisiau gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd yn y rhanbarth. 

Siaradwr:

Ben Burggraaf. Prif Swyddog Gweithredol. Diwydiant Sero Net Cymru.

Datblygu Sgiliau ar gyfer diwydiant Sero Net yng Nghymru (SWITCH, Prifysgol Abertawe)

Mae hyfforddiant a sgiliau yn rhan hanfodol o'r trosglwyddiad cyfiawn i Sero Net. Roedd y sesiwn wedi’i hanelu at y rheiny sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau ar gyfer economi werdd yn y dyfodol, yn enwedig o fewn gweithgynhyrchu, deunyddiau, ynni a diwydiannau cysylltiedig yng Nghymru. https://www.now-switch.wales/

Siaradwyr:

Yr Athro Ian Mabbett. Athro, Cemeg. Prifysgol Abertawe.

Dr Brett C Suddell. Rheolwr Rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel. Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Yr Athro James Sullivan. Athro, Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg. Prifysgol Abertawe.

Yr Athro Laura Roberts. Prifysgol Abertawe. Athro Biowyddorau, Deon Cyswllt Addysg.

James Davies. Prif Swyddog Gweithredol. Industry Wales.

Saernïo’r Ffordd i Waith Coed yng Nghymru (Llywodraeth Cymru)

Mae diwydiant coed ffyniannus yn cynnig manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i Gymru. Bu aelodau’r Panel yn trafod y camau y mae angen eu cymryd i hyrwyddo diwydiant coed iach, sy'n tyfu yng Nghymru.

Siaradwyr:

Elaine Harrison. Rheolwr Cenedlaethol Cymru. Confor (Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigaeth).

Gary Newman Prif Weithredwr. Woodknowledge Wales.

Steve Cranston. Arweinydd y Prosiect - Darparu Sero Net.

Huwel Manley. Pennaeth Gweithrediadau De-orllewin Cymru. Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dyfodol cynhwysol i sector y môr a’r arfordir yng Nghymru: cyfleoedd ar gyfer economi las gynaliadwy (Llywodraeth Cymru)

Y cefn gwlad a'r arfordir yw rhai o'r meysyddd cyflogaeth lleiaf amrywiol.  Bu'r sesiwn hon yn edrych ar ffyrdd o agor y sector morol ac arfordirol er mwyn sicrhau y gall fod yn fwy cynhwysol a dangoswyd rhai o'r dulliau a fabwysiadwyd gan nifer o gyflogwyr yn y sector hwn.

Siaradwyr:

Dafydd Tudor. Cadeirydd. Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru.

Jennifer Godwin. Rheolwr Partneriaeth. Grŵp Defnyddwyr a Datblygwyr Môr.

Sheree Jonas. Rheolwr Datblygu Sefydliadol. Yn cynrychioli Us Rural Ltd.

Tim Brew. Rheolwr Rhaglen. Fforwm Arfordirol Sir Benfro.

Cefnogi BBaChau - Y Daith at Sero Net (Llywodraeth Cymru)

Ble mae busnes bach neu ganolig yn dechrau ar y daith o bontio cyfiawn i gynaliadwyedd? Dyma'r cwestiwn allweddol y rhoddwyd sylw iddo yn y sesiwn hon, gan gynnwys y cymorth sydd ar gael i helpu busnesau drwy'r cyfnod pontio.  

Siaradwyr:

Shelley Lawson Cyd-sylfaenydd. Frog Bikes.

Chris Dhenin. Pennaeth y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd. Banc Datblygu Cymru.

Dr Sarah Gore. Cynghorydd Datgarboneiddio. Busnes Cymru.

Tracey Gilbert-Falconer. Rheolwr Cyllid. Câr y Môr / For the Love of the Sea

Ben Cottam. Pennaeth Cymru. Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB)

Rebecca Hayes. Perchennog busnes. Sgript.

Rhoi Llwyfan Teg i Sefydliadau er mwyn Cyrraedd Sero Net yn Gynt drwy Dechnoleg (BT)

Yn y sesiwn hon, canolbwyntiwyd ar y rôl ganolog y mae technoleg yn ei chwarae wrth yrru mentrau cynaliadwyedd, wedi'u teilwra tuag at weithwyr proffesiynol sydd eisiau dysgu am y modd y gall technoleg eu helpu i gyflawni eu nodau tuag at sero net. 

Siaradwyr:

Sarwar Khan, Pennaeth Cynaliadwyedd Byd-eang. BT.

Stuart Higgins. Pennaeth Smart Cities and IoT. Llysgennad Cynaliadwyedd. Cisco.

David Zorn. Pennaeth Partneriaethau Strategol. Climeworks.

Carl Payne. Digidol - Arweinydd Gwerthu OpenBlue. Johnson Controls.

Caffael Cyhoeddus Cynaliadwy: Offer i Gefnogi Cyfnod Pontio Teg (WRAP Cymru)

Bu’r siaradwyr yn edrych ar bwysigrwydd caffael cyhoeddus wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd gan roi esboniad ar rai o’r adnoddau sydd ar gael i helpu sefydliadau i gaffael nwyddau a gwasanaethau mewn ffordd fwy cynaliadwy. 

Siaradwyr:

Pauline Vella. Rheolwr Cyflawni Cymorth Technegol. WRAP.

Huw Lloyd. Rheolwr Cyfrif Busnes a Chyflenwi Prosiectau. WRAP Cymru.

Thomas Funk. Rheolwr Cyfrif Busnes a Chyflenwi Prosiectau. WRAP Cymru.

Aled Guy. Pennaeth Cynaliadwyedd a Rheoli Carbon Sero Net. Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Rob Skellett Arweinydd Offer Therapiau, Ffisiotherapi. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Stuart Jones. Gwasanaethau Cymorth Cyfarwyddiaeth, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Ail-ystyried sgiliau a swyddi gwyrdd (UNISON Cymru)

Roedd y sgwrs hon gan dîm dysgu UNISON Cymru Wales yn cyflwyno gwaith gwasanaethau cyhoeddus drwy lens ‘Doughnut Economics’ Kate Raworth, cysyniadau Pontio Cyfiawn, a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwyrdd carbon isel mewn gwirionedd.

Siaradwyr:

Richard Speight. Trefnydd Datblygu Dysgu Ardal. UNISON Cymru.

Jenny Griffin. Trefnydd Datblygu Dysgu Ardal. UNISON Cymru.

[]

 

Hygyrchedd          Cwcis         Datganiad hawlfraint       Polisi preifatrwydd gwefan       Telerau ac amodau

                                                                                               Cysylltwch â ni:​ climatechange@gov.wales