Llywodraeth Cymru

Cwcis

Mae gwefan Eventscase yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth anhysbys ynglŷn ag ymddygiadau ymwelwyr.

Darnau bychain o wybodaeth yw cwcis a gedwir ar eich cyfrifiadur gan wefannau. Mae’r rhain fel arfer yn cael eu defnyddio gan wefannau i gofio dewisiadau, neu i ddarparu hysbysebion mwy penodol a pherthnasol yn seiliedig ar ymddygiadau ar-lein.

Mae Eventscase, er enghraifft, yn defnyddio cwcis i olrhain y nifer o ymwelwyr sy’n cofrestru ar gyfer digwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 – gan ein galluogi ni i ddarparu profiad safle gwell.

Google analytics

Pan mae rhywun yn ymweld â gwefan digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol am ymweliadau safle trwy gwcis. Rydym yn gwneud hyn i gael gwybod mwy am batrymau ymddygiad cyffredinol, megis nifer yr ymwelwyr i wahanol rannau’r safle. Dim ond mewn ffordd sy’n cadw hunaniaeth bersonol yn anhysbys y prosesir y wybodaeth hon. Nid ydym yn gwneud, nac yn caniatáu Google i wneud, unrhyw ymgais i ganfod hunaniaeth y rhai sy’n ymweld â’n gwefan.

Mae Llywodraeth Cymru a Freshwater wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd

Fel y nodwyd, rydym yn defnyddio cwcis sy’n hanfodol i reolaeth ein gwasanaethau a gwefan, sydd hefyd yn gwella eich profiad pori. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r cwcis hyn wedi’i rhestru isod, fodd bynnag mae eich defnydd parhaus o’r safle heibio’r fan hon yn golygu eich bod yn derbyn y defnydd o gwcis gan:

  • Eventcase, ar gyfer cynnal platfform ar-lein Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, rheoli cofrestriadau, recordio cynnwys ystafell sgwrsio, derbyn ceisiadau Sgyrsiau Hinsawdd, derbyn awgrymiadau am raglenni a derbyn addewidion.

  • Google Analytics, i’n helpu ni i wella a chael y mwyaf o lwyfan ar-lein Wythnos Hinsawdd Cymru 2023.

Os nad ydych yn rhoi eich caniatâd i’r cwcis hyn gael eu defnyddio, cliciwch yma, sy’n golygu yn anffodus na fyddwch yn gallu archwilio holl swyddogaethau’r wefan hon.

Efallai y byddwn yn newid y Polisi hwn o bryd i’w gilydd felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon ag unrhyw newid. Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau, rydych yn cytuno i fod wedi eich rhwymo gan y Polisi hwn.

 

 

Hygyrchedd          Cwcis         Datganiad hawlfraint       Polisi preifatrwydd gwefan       Telerau ac amodau

                                                                                               Cysylltwch â ni:​ climatechange@gov.wales