Llywodraeth Cymru

Thema: Addasu i'n hinsawdd newidiol

Bydd y gynhadledd rithiol 5 diwrnod eleni yn cynnwys cyfres o brif sesiynau a phaneli rhyngweithiol yn ymdrin ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein systemau tir ac amaethyddiaeth, morol, pysgodfeydd, natur a bwyd; seilwaith ynni, trafnidiaeth, cyfathrebu, dŵr a dŵr gwastraff; busnesau, yr economi a chyllid; systemau iechyd a gofal cymdeithasol; ac ar ein trefi, ein dinasoedd a'n cymunedau. Bydd sesiynau hefyd yn archwilio mater tegwch ac effaith anghymesur newid hinsawdd ar wahanol grwpiau. Byddwn hefyd yn ystyried rhagamcanion cynhesu byd-eang (gan gynnwys y risgiau a’r cyfleoedd), y cyd-destun rhyngwladol (o effeithiau newid yn yr hinsawdd i’r modd y mae cenhedloedd eraill yn addasu), a’r cysylltiadau rhwng lliniaru ac addasu i’r hinsawdd.

Cofrestrwch i fynychu

Y gynulleidfa ar gyfer y gynhadledd rithiol yw rhanddeiliaid hinsawdd (e.e. y sector cyhoeddus, rhwydweithiau diwydiant a busnes a sefydliadau trydydd sector) sydd â rôl mewn cyflawni polisïau, rhaglenni a mentrau hinsawdd. Ond nid yw presenoldeb yn gyfyngedig, ac mae cofrestru am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r drafodaeth. Bydd pob sesiwn gynhadledd yn rhithiol, ac i wylio'r sesiynau bydd angen i chi gofrestru. Ond os byddwch chi'n colli sesiwn, byddan nhw'n cael eu recordio a byddwch chi'n gallu eu gwylio eto trwy'r swyddogaeth Ar-alw a fydd yn cael ei chyhoeddi ar wefan climateweek.gov.wales yn dilyn y gynhadledd.

Cofrestrwch i fynychu

Gwnewch gais i gynnal sgwrs neu sesiwn banel

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal sgwrs neu sesiwn banel, edrychwch ar yr is-themâu a restrir isod, i benderfynu pa ddiwrnod fyddai’r mwyaf addas. Os ydych yn ansicr ar hyn o bryd a yw cysyniad eich sesiwn yn cyd-fynd yn ddigon agos ag unrhyw un o’r is-themâu (ceir canllawiau pellach ar eu cyfer isod hefyd), neu os ydych yn ansicr ynghylch y fformat yr hoffech ei fabwysiadu ac nad ydych wedi penderfynu ar y siaradwyr eto, yna byddem yn dal i ofyn i chi lenwi'r ffurflen gais gyda gwybodaeth amlinellol erbyn y dyddiad cau o 17:00 ar ddydd Gwener, 11 Hydref*. Bydd Freshwater (y contractwr rheoli digwyddiad penodedig) yn cysylltu â chi am drafodaeth ddilynol i egluro unrhyw wybodaeth sydd ar goll yn ddiweddarach. Yn anffodus, ni allwn warantu y gallwn ystyried unrhyw geisiadau y tu hwnt i'r dyddiad hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn llenwi'r ffurflen hon, anfonwch e-bost atom yn walesclimateweek@freshwater.co.uk.

Gwnewch gais i gynnal sgwrs neu sesiwn banel.

* Sylwch y gall y dyddiad cau hwn gael ei ddwyn ymlaen yn dibynnu ar y galw. Po gynharaf y byddwch yn gallu llenwi'r ffurflen gofrestru, y mwyaf o gyfle fydd ar gael i sicrhau eich sesiwn a chadw'ch slot dewisol. Bydd ceisiadau am sesiynau’n cael eu hadolygu a’u cymeradwyo’n barhaus i ganiatáu digon o amser i westeion baratoi ar gyfer eu digwyddiadau a helpu i’w hyrwyddo (gan ddefnyddio Pecyn Cymorth Hyrwyddo Wythnos Hinsawdd Cymru). 

 

Teithiau safle ar ôl y digwyddiad

Eleni rydym yn cynnig y cyfle i sefydliadau sy'n cynnal sesiynau cynhadledd rhithwir drefnu teithiau safle ar ôl y digwyddiad ar gyfer cynrychiolwyr sydd â diddordeb mewn ymweld â phrosiectau neu raglenni sy'n cael eu cynnwys yn y rhaglen. Os ydych yn gwneud cais i gynnal sesiwn a bod gennych ddiddordeb mewn cynnal taith safle hefyd, yna cwblhewch yr adran ychwanegol sydd wedi'i chynnwys yn y ffurflen gais. Byddwn mewn cysylltiad ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 11 Hydref i drafod ymhellach ac egluro sut y gallwn helpu hyrwyddo eich taith safle.

Canllawiau ar bynciau i'w trafod

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i gynnal sesiwn ac i wneud y mwyaf o'r cyfle i sicrhau slot, gweler yr adran hon am ganllawiau amlinellol ar y pynciau enghreifftiol i'w cwmpasu o dan yr is-themâu dyddiol. 

Cliciwch isod i ehangu ac i ddysgu mwy

DIWRNOD 1 - Tir, Amaethyddiaeth, Morol, Pysgodfeydd a Natur

Tir ac amaethyddiaeth – Sicrhau da byw iach a chynhyrchiol, cyn lleied â phosibl o gnydau’n methu, iechyd y pridd, peillwyr a phlâu, storio dŵr ar y fferm, rheoli risgiau tanau gwyllt, a lleihau’r perygl o lifogydd i dir âr.

Morol, pysgodfeydd a dyframaethu - Cynnal stociau pysgod a gweithgareddau dyframaethu iach, gwydn, gan sicrhau dŵr croyw, dyfroedd morol ac aberol o safon, addasu arferion pysgota a dyframaethu i newidiadau mewn tymheredd ac asideiddio, a rheoli a lleihau lledaeniad plâu, clefydau a rhywogaethau ymledol.

Natur, mawndiroedd, coedwigoedd a choetiroedd – Rôl natur a mawndiroedd wrth addasu i newid yn yr hinsawdd a storio carbon, priddoedd ac iechyd pridd, lleihau plâu, clefydau a rhywogaethau ymledol, ansawdd dŵr a diogelu rhywogaethau daearol a dŵr croyw a morol, coetiroedd a choed gan gynnwys eu rôl yn atal llifogydd, darparu cysgod, atafaelu carbon, diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt a chefnogi diwydiant pren cynaliadwy.

DIWRNOD 2 – Isadeiledd (trafnidiaeth, ynni, telathrebu a dŵr/dŵr gwastraff)

Rhwydweithiau a gweithrediadau trafnidiaeth gwydn – Sicrhau bod asedau trafnidiaeth presennol (ffyrdd, rheilffyrdd, meysydd awyr a phorthladdoedd) yn cael eu paratoi ar gyfer risgiau ac effeithiau hinsawdd heddiw ac yn y dyfodol, ac addasu seilwaith newydd. 

Sicrwydd cyflenwad a gwytnwch ar lefel system ynni – Sicrhau bod cynlluniau addasu yn ystyried capasiti cynhyrchu, hyblygrwydd, afreidrwydd, cymysgedd a lleoliad, a lleihau bregusrwydd asedau ar gyfer pob gweithredwr trydan a nwy mawr.

Telathrebu a gwytnwch ac asedau ar lefel system – Cynllunio wrth gefn ar gyfer toriadau sy’n gysylltiedig â’r tywydd, gan gynnwys afreidrwydd wrth ddylunio a gweithredu systemau, amrywiaeth technoleg, diogelu asedau telathrebu a TGCh.

Seilwaith dŵr a dŵr gwastraff – Diogelu seilwaith dŵr, ansawdd a chyflenwad dŵr rhag llifogydd, codiad yn lefel y môr ac amhariad sy’n gysylltiedig â’r tywydd, cynllunio ymateb i ddigwyddiadau, lleihau’r galw gan aelwydydd a chynyddu effeithlonrwydd defnyddio dŵr, lleihau gollyngiadau a sicrhau cyflenwad preifat digonol.

DIWRNOD 3 – Busnes, yr Economi a Chyllid

Diogelu busnesau a gweithwyr rhag effeithiau hinsawdd - Lleihau risgiau i safleoedd busnes a cholledion cynhyrchiant, diogelu iechyd a lles gweithwyr rhag tymereddau uwch, a darparu amgylchedd gwaith diogel.

Nodi a rheoli risgiau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi – Sicrhau bod gan fusnesau gynlluniau cadernid cadwyn gyflenwi da ar waith, a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i allforio nwyddau a gwasanaethau addasu i’r hinsawdd yn y Deyrnas Unedig.

Diogeledd bwyd - Lleihau aflonyddwch i gadwyni cyflenwi bwyd a bwyd anifeiliaid, sicrhau bod risgiau i ddiogelwch a safonau bwyd yn cael eu hystyried o fewn cytundebau masnach y Deyrnas Unedig, lleihau risgiau cadwyn gyflenwi, lleihau bregusrwydd i siociau pris bwyd ac effeithiau ar fforddiadwyedd bwyd a chynnwys maethol.

Cyllid - Sicrhau bod gan fusnesau fynediad at gyfalaf ac yswiriant gan gynnwys ar gyfer addasu, nid yw prosiectau addasu hyfyw yn methu oherwydd diffyg cyllid, a bod sefydliadau ariannol yn ymgorffori risg ffisegol wrth wneud penderfyniadau ariannol.

DIWRNOD 4 – Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Diogelu pobl rhag effeithiau iechyd y newid yn yr hinsawdd a gwneud y mwyaf o unrhyw fuddion iechyd posibl - Effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd a lles pobl a rhagweld a mynd i'r afael â newidiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd i glefydau heintus a marwolaethau, gwrth-gydbwyso trafodaethau â'r cyfle i wireddu potensial manteision iechyd meddwl a chorfforol. Iechyd a diogelwch addysgol ac yn y gweithle.

Darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol hygyrch o safon yn ystod tywydd eithafol - Lleihau amhariad tywydd i ofal sylfaenol a chymunedol, ysbytai a lleoliadau cartrefi gofal, a gwasanaethau cysylltiedig a chadwyni cyflenwi, ac ar iechyd a lles y gweithlu, yn ogystal â chynllunio ymateb brys.

DIWRNOD 5 – Trefi, Dinasoedd a Chymunedau

Addasu ein trefi, ein dinasoedd a’n cymunedau - Diogelu trefi, dinasoedd a chymunedau rhag llifogydd afonydd, arfordirol, dŵr wyneb a dŵr daear, sicrhau bod cynlluniau rheoli erydu arfordirol ar waith a bod asedau a seilwaith rheoli llifogydd mewn cyflwr da, gan leihau risgiau i bobl ac adeiladau o wres trefol, gwneud y defnydd gorau o seilwaith gwyrdd a glas / datrysiadau seiliedig ar natur a sicrhau bod systemau rhybuddio effeithiol yn eu lle.

Addasu adeiladau preswyl ac amhreswyl newydd a phresennol - Atal gorboethi a rheoli perygl lleithder, amddiffyn adeiladau rhag llifogydd a risgiau eraill sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd, sicrhau bod systemau cynllunio'n cael eu datblygu i ystyried gofynion addasu a bod unigolion yn deall sut i fynd i'r afael â risgiau a'u lliniaru, ac alinio polisi addasu a datgarboneiddio i greu atebion system gyfan.

Treftadaeth ddiwylliannol ac amgylcheddau hanesyddol – Rheoli risgiau i asedau diwylliannol a threftadaeth (safleoedd archaeolegol, adeiladau, tirweddau hanesyddol, llongddrylliadau, casgliadau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, llên gwerin, iaith draddodiadol, gwybodaeth ac arferion ac ati), a sicrhau bod rheoliadau a safonau yn cefnogi’r amddiffyniad a chadwraeth briodol o asedau treftadaeth.

Y tu hwnt i syniadau ynghylch sut y bydd eich sesiwn yn cyd-fynd â’r is-themâu dyddiol hyn, byddem hefyd yn annog ymgeiswyr i ystyried sut y bydd eich sesiwn yn defnyddio’r materion trawsbynciol pwysig eraill, y mae enghreifftiau ohonynt wedi’u darparu isod:

Tegwch a chyfiawnder cymdeithasol

Sicrhau dosbarthiad teg cyfleoedd, buddion a beichiau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ar draws cymdeithas.

Addasu a lliniaru

Cyd-ddibyniaeth a chyfaddawdu rhwng addasu i newid yn yr hinsawdd a lliniaru / datgarboneiddio.

Effeithiau hinsawdd

Effeithiau ar iechyd, cartrefi ac adeiladau, systemau seilwaith, trefi, dinasoedd a chymunedau gwledig, cyflenwadau bwyd, natur, aer, tir ac ansawdd dŵr.

Cyfleoedd hinsawdd

Cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth, rhywogaethau a stociau pysgod, cnydau a chynhyrchiant, newidiadau defnydd tir, gwell iechyd cyhoeddus, twristiaeth a masnach.

Risgiau hinsawdd

Risgiau sy’n ymwneud â rhywogaethau penodol, iechyd pridd a chnydau, storfeydd a dal a storio carbon naturiol, da byw, coed, cyflenwadau bwyd, nwyddau a gwasanaethau hanfodol, iechyd a lles dynol, yr economi, ac effeithiau hinsawdd dramor.

Parodrwydd ar gyfer argyfwng

Lleihau’r tebygolrwydd ac addasu i risgiau o beryglon naturiol megis llifogydd, tirlithriadau, tywydd poeth a sychder.

Cost effeithiau ac addasu i newid yn yr hinsawdd

Archwilio effaith newid yn yr hinsawdd ar gostau cartrefi o gynnydd mewn biliau ynni, i brisiau bwyd ac yswiriant tai, yr effeithiau ar iechyd y cyhoedd, tarfu ar bŵer a chyfleustodau ac ati.

Cynyddu llwyddiant

Arddangos astudiaethau achos ysbrydoledig o addasu hinsawdd y gellid eu hailadrodd a/neu eu cynyddu mewn mannau eraill.

Canllawiau pellach ar y rhaglen

Cwblhau’r ffurflen gais

Wrth gwblhau’r ffurflen gais i gynnal sesiwn, byddwch yn cael dewisiadau ar gyfer fformat dewisol eich sesiwn, gosodwch y sesiynau yn eu trefn, gyda “1” fel eich hoff opsiwn. Mae opsiynau’n cynnwys:

  • Sesiwn banel gyda Holi ac Ateb (2-4 siaradwr – yn cynnwys cadeirydd) (60 munudyn cynnwys 45 munud + 15 munud o sesiwn holi ac ateb)
  • Sesiwn banel gyda Holi ac Ateb (2-4 siaradwr – yn cynnwys cadeirydd) (90 munudyn cynnwys 75 munud + 15 munud o sesiwn holi ac ateb)
  • Siaradwr unigol (30 munudyn cynnwys 20 munud + 10 munud o sesiwn holi-ac-ateb)
     

Byddwch hefyd yn cael eich holi a ydych yn ffafrio sesiwn AM / PM, neu ddim yn ffafrio unrhyw amser. Mae blwch testun i ychwanegu unrhyw amseroedd y mae rhaid i ni ei hosgoi wrth ddyrannu sesiynau. Yn ogystal â darparu gwybodaeth amlinellol am eich sesiwn, bydd y ffurflen yn gofyn i chi ddarparu disgrifiad byr yn egluro'r gynulleidfa( neu gynulleidfaoedd) targed ar gyfer eich digwyddiad. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi yn y rhaglen ochr yn ochr â manylion eich sesiwn os caiff ei chymeradwyo. Gofynnir i chi hefyd gadarnhau, os cewch eich cymeradwyo, y byddwch yn fodlon helpu hyrwyddo'ch sesiwn trwy ddefnyddio'r asedau sydd yn ein Pecyn Cymorth Hyrwyddo.

 

Prif sesiynau

Mae nifer o sesiynau prif siaradwyr drwy gydol yr wythnos, bydd y rhain yn digwydd ar ffurf sesiwn banel awr o hyd wedi’i threfnu gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn cynnwys trafodaeth fanwl ynglŷn â’r is-themâu ar gyfer pob diwrnod. Cyhoeddir rhagor o fanylion am y sesiynau hyn yn fuan. Nid yw'r slotiau hyn ar gael i'w harchebu, ond os ydych yn dymuno cyfrannu syniadau, anfonwch e-bost atom yn walesclimateweek@freshwater.co.uk.

 

Sesiynau materion trawsbynciol

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys un sesiwn bwrpasol bob dydd yn ymdrin â materion trawsbynciol a sut mae hyn yn cysylltu â phrif thema addasu hinsawdd, a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi'n fuan. Nid yw'r slotiau hyn ar gael i'w harchebu a byddant yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, os hoffech gyfrannu syniadau at y sesiynau hyn, anfonwch e-bost atom yn walesclimateweek@freshwater.co.uk.

 

                          Hygyrchedd                                 Polisi preifatrwydd gwefan                               Telerau ac amodau


Cysylltwch â ni:​ climatechange@gov.wales