Llywodraeth Cymru

Polisi preifatrwydd Wythnos Hinsawdd Cymru​

Mae Llywodraeth Cymru a Freshwater wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd

Mae'r Polisi hwn yn egluro pryd a pham rydym yn casglu gwybodaeth bersonol am bobl sy’n ymweld â gwefan Wythnos Hinsawdd Cymru neu’n cymryd rhan yn ein digwyddiadau, sut rydym yn ei defnyddio, dan ba amodau y gallwn ei datgelu i eraill a sut rydym yn ei chadw'n ddiogel.

Rheolydd data

Llywodraeth Cymru yw'r Rheolydd Data a Freshwater (FW) yw'r Prosesydd Data ar gyfer y wybodaeth a gyflwynwyd drwy wefan Wythnos Hinsawdd Cymru, ynghyd ag unrhyw wybodaeth a rannwyd neu recordiadau a wnaed yn ystod rhaglen y digwyddiad cysylltiedig. Mae Llywodraeth Cymru ac FW wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU).  Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru drwy anfon e-bost DataProtectionOfficer@gov.wales.

Mae gan Freshwater Swyddog Diogelu Data, ac mae modd cysylltu â hi drwy e-bost charlotte.homa@freshwater.co.uk

Gwefan digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru

Cynhelir gwefan digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru gan drydydd parti (Eventcase). Rheolir yr holl gynnwys ar y wefan ac ymholiad uniongyrchol a wneir drwy’r wefan gan Freshwater.

Pa wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi?

Gall y wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn cofrestru ar gyfer digwyddiad Llywodraeth Cymru gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, lleoliad dewisol ac enw eich sefydliad (os yn berthnasol). Er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’r digwyddiad(au) yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer yn unig y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon.

Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

  • Gwneud y mwyaf o wefan digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru.

  • Monitro lefelau cofrestriadau i’r digwyddiad(au).

  • Monitro pa sefydliadau sy’n defnyddio pecyn cymorth rhanddeiliaid Pecyn Cymorth Hyrwyddol Wythnos Hinsawdd Cymru​.

  • Os ydych yn cyflwyno cais i gynnal digwyddiad ymylol, bydd Freshwater a Llywodraeth Cymru yn adolygu'r manylion er mwyn pennu addasrwydd y cais. Bydd y manylion cyswllt sy'n cael eu cyflwyno'n cael eu defnyddio i ofyn am fanylion pellach, os oes angen, a rhoi gwybod ichi a oedd eich cais yn llwyddiannus ai peidio.

  • Os ydych yn cyflwyno cais i gynnal sesiwn gynhadledd rithiol, bydd Freshwater a Llywodraeth Cymru yn adolygu'r manylion. Os yw eich syniad sesiwn yn cael ei ddefnyddio yn y rhaglen ddigwyddiadau rhithiol, bydd Freshwater a Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r manylion a gyflwynwyd i gysylltu â chi a'r cyfranwyr awgrymedig, er mwyn trefnu'r briff siaradwr a chyfranogiad yn y sesiwn.

  • Anfon negeseuon e-bost atgoffa at unigolion sydd wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru.

Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?

Mae prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd. Mae’n rheidrwydd ar Lywodraeth Cymru dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fabwysiadu polisi cyfranogiad.

Pwy sy'n cael eich gwybodaeth?

Freshwater yw’r prif brosesydd data ar gyfer data a gasglwyd drwy wefan digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru. Rydym hefyd yn defnyddio proseswyr trydydd parti ac felly efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â nhw. Bydd prosesu’r wybodaeth hon yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd partïon. Mae'r proseswyr trydydd parti a ddefnyddiwn fel a ganlyn:

Am ba hyd caiff eich gwybodaeth ei chadw?

 Byddwn yn cadw eich data dim hirach na sydd ei angen a hyd nes diwedd mis Mawrth 2024.

Beth yw eich hawliau unigol?

Mae gennych yr hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, cyfyngu ar a chludo data eich gwybodaeth bersonol. Os yw unigolion yn dewis rhyngweithio yn y sesiynau byw, naill ai drwy fideo neu nodwedd sgwrs, maent yn rhoi eu caniatâd i recordiadau gael eu cadw ar gyfer ein cofnodion ac at ddibenion cyflawni amcanion y prosiect. 

Dylid gwneud unrhyw gais neu wrthwynebiad drwy ysgrifennu at Swyddog Diogelu Data FW:-

charlotte.homa@freshwater.co.uk

Diogelwch eich gwybodaeth

Bydd yr holl wybodaeth rydych yn ei rhannu'n cael ei storio ar ein gweinyddion diogel.

Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy'r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i'n safle; mae unrhyw drosglwyddiad ar eich risg eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad heb awdurdod.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, lle bo'n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Cadwch olwg ar y dudalen hon i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'n polisi preifatrwydd.

Sut i wneud cwyn

Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae eich data personol wedi ei brosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data FW yn gyntaf drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych yn parhau i fod yn anhapus, mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF (ico.org.uk)

 

 

Hygyrchedd          Cwcis         Datganiad hawlfraint       Polisi preifatrwydd gwefan       Telerau ac amodau

                                                                                               Cysylltwch â ni:​ climatechange@gov.wales