Mae'r Polisi hwn yn egluro pryd a pham rydym yn casglu gwybodaeth bersonol am bobl sy’n ymweld â gwefan Wythnos Hinsawdd Cymru neu’n cymryd rhan yn ein digwyddiadau, sut rydym yn ei defnyddio, dan ba amodau y gallwn ei datgelu i eraill a sut rydym yn ei chadw'n ddiogel.
Llywodraeth Cymru yw'r Rheolydd Data a Freshwater (FW) yw'r Prosesydd Data ar gyfer y wybodaeth a gyflwynwyd drwy wefan Wythnos Hinsawdd Cymru, ynghyd ag unrhyw wybodaeth a rannwyd neu recordiadau a wnaed yn ystod rhaglen y digwyddiad cysylltiedig. Mae Llywodraeth Cymru ac FW wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU). Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru drwy anfon e-bost DataProtectionOfficer@gov.wales.
Mae gan Freshwater Swyddog Diogelu Data, ac mae modd cysylltu ag ef drwy e-bost ar Haydn.Evans@freshwater.co.uk
Cynhelir gwefan digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru gan drydydd parti (Eventcase). Rheolir yr holl gynnwys ar y wefan ac ymholiad uniongyrchol a wneir drwy’r wefan gan Freshwater.
Gall y wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cofrestru ar gyfer digwyddiad Llywodraeth Cymru gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, lleoliad dewisol ac enw eich sefydliad (os yn berthnasol). Er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’r digwyddiad(au) yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer/wedi gwneud cais i’w cynnal fel rhan o’r Wythnos yn unig y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon.
Gwneud y mwyaf o wefan digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru.
Monitro lefelau cofrestriadau i’r digwyddiad(au).
Monitro pa sefydliadau sy’n defnyddio Pecyn Cymorth Hyrwyddol Wythnos Hinsawdd Cymru.
Os ydych yn cyflwyno cais am ddigwyddiad Sgyrsiau ynghylch yr Hinsawdd neu gais am sesiwn panel rhithwir, bydd y manylion yn cael eu hadolygu gan Freshwater a Llywodraeth Cymru er mwyn pennu addasrwydd y cais a bydd Freshwater yn cysylltu â chi am hyn.
Os byddwch yn llenwi arolwg Wythnos Hinsawdd Cymru, bydd y data ar gael i Lywodraeth Cymru iddyn nhw eu hadolygu.
Anfon negeseuon e-bost atgoffa ac e-bost arolwg wedi’r digwyddiad i bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru. Os byddai’n well gennych beidio â derbyn y negeseuon e-bost atgoffa hyn, cysylltwch â walesclimateweek@freshwater.co.uk
Mae prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd. Mae’n rheidrwydd ar Lywodraeth Cymru dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fabwysiadu polisi cyfranogiad.
Freshwater yw’r prif brosesydd data ar gyfer data a gasglwyd drwy wefan digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru. Rydym hefyd yn defnyddio proseswyr trydydd parti ac felly efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â nhw. Bydd prosesu’r wybodaeth hon yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd partïon. Mae'r proseswyr trydydd parti a ddefnyddiwn fel a ganlyn:
Bydd gan Lywodraeth Cymru, fel perchennog y prosiect, fynediad at yr holl ddata a gasglwyd ac a broseswyd fel rhan o’r prosiect hwn.
Eventscase ar gyfer cynnal platfform ar-lein Wythnos Hinsawdd Cymru, rheoli cofrestriadau gweminarau a gweithdai a recordio cynnwys yr ystafell sgwrsio. Meddalwedd rheoli digwyddiadau hollgynhwysol (eventscase.com)
Defnyddir Mandrilla/Mail Chimp fel is-brosesydd gan Eventscase ar gyfer gweinyddu negeseuon cyn ac ar ôl y digwyddiad. Cydymffurfiaeth â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR): I gael caniatâd GDPR ar gyfer Marchnata | Mailchamp
Google Analytics i’n cynorthwyo wrth wella a manteisio i'r eithaf ar y wefan.
Defnyddir Smart Surveys i gasglu data ar gyfer cyflwyno rhaglenni a cheisiadau Sgyrsiau ynghylch yr Hinsawdd. Mae Smart Surveys yn cynnig ffordd ddiogel a chyfleus o gyflwyno data i ni. Mae eich defnydd o Smart Surveys yn ddarostyngedig i’n hamodau a thelerau a’u polisi preifatrwydd.
Byddwn yn cadw eich data dim hirach na sydd ei angen a hyd nes diwedd mis Chwefror 2025.
Mae gennych yr hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, cyfyngu ar a chludo data eich gwybodaeth bersonol. Os yw unigolion yn dewis rhyngweithio yn y sesiynau byw, naill ai drwy fideo neu nodwedd sgwrs, maent yn rhoi eu caniatâd i recordiadau gael eu cadw ar gyfer ein cofnodion ac at ddibenion cyflawni amcanion y prosiect.
Dylid gwneud unrhyw gais neu wrthwynebiad drwy ysgrifennu at Swyddog Diogelu Data FW:-
Bydd yr holl wybodaeth rydych yn ei rhannu'n cael ei storio ar ein gweinyddion diogel.
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy'r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i'n safle; mae unrhyw drosglwyddiad ar eich risg eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad heb awdurdod.
Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, lle bo'n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Cadwch olwg ar y dudalen hon i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'n polisi preifatrwydd.
Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae eich data personol wedi ei brosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data FW yn gyntaf drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Os ydych yn parhau i fod yn anhapus, mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF (ico.org.uk)