Llywodraeth Cymru
Baner digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru 2023- 4-8 Rhagfyr

Taflu Goleuni ar Newid Hinsawdd:

“Sut ydym ni’n mynd i’r afael â newid hinsawdd yn deg?”

Thema Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yw tegwch, a’r angen i ddatrysiadau ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd a datblygu mwy o wytnwch iddo ganolbwyntio ar y brif egwyddor, sef peidio â gadael unrhyw un ar ôl. Yn nigwyddiad eleni, bydd y sylw ar effeithiau anghymesur newid hinsawdd ar wahanol bobl, grwpiau a lleoedd, a bydd yn mynd i’r afael â sut allwn sicrhau bod y buddion sy’n gysylltiedig â pholisïau’r hinsawdd wedi’u dosbarthu’n deg ar draws cymdeithas.

Bydd y cyfranogwyr yn archwilio’r cysylltiadau rhwng datrysiadau ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng costau byw. Y nod fydd cyfnerthu ein dealltwriaeth gyffredinol o’r rhwystrau mae diwydiant a busnesau, rhanbarthau, cymunedau ac aelwydydd ledled Cymru yn eu hwynebu, y camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt i fynd i’r afael â’r rheini, a datrysiadau eraill sydd eu hangen yn y dyfodol.

Eleni, bydd y rhaglen ddigwyddiadau yn cyd-fynd ag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Fframwaith Pontio Teg i sicrhau ein bod yn clywed barn cynifer â phosibl o bobl, yn cynrychioli safbwyntiau gwahanol ac yn cynnwys y lleisiau hynny na fyddai fel arfer yn cael eu clywed.

Daw hyn wedi Galwad am Dystiolaeth a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022 a roddodd y cyfle cyntaf i fusnesau, academyddion, sefydliadau’r sector cyhoeddus, undebau masnach a sefydliadau’r trydydd sector i siapio sut beth fydd y Fframwaith newydd hwn. 

Bydd sesiynau a gynhelir drwy gydol Wythnos Hinsawdd Cymru yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am gysyniad tegwch yng nghyd-destun llunio polisi hinsawdd a phontio teg, ac yn helpu i wella dealltwriaeth o ran sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd o gwmpas hynny. Yn ogystal, bydd cyfranogwyr yn trafod sut allwn annog eraill i gymryd rhan mewn llunio strategaeth a pholisïau’r dyfodol drwy’r Fframwaith Pontio Teg newydd.

Bydd yr wythnos yn cynnwys y rhaglen ganlynol o ddigwyddiadau rhithiol ac wyneb yn wyneb:

Cynhadledd Rithiol (4-8 Rhagfyr 2023)

Ceir gwybodaeth gefndirol ynghylch rhaglen y gynhadledd rithiol 5 diwrnod yma

Ar y cyfan, cynulleidfa’r digwyddiad hwn fydd cyrff y sector cyhoeddus, busnesau a chyrff diwydiant, undebau masnach, grwpiau gwirfoddol, sefydliadau amgylcheddol, elusennau, sefydliadau academaidd, grwpiau ieuenctid, rhwydweithiau cydraddoldeb ymhlith eraill. Wedi dweud hynny, digwyddiad agored yw hwn ac mae croeso i bawb ymuno â’r sgwrs rithiol ynghylch yr hinsawdd.

I fynychu cynhadledd rithiol, cofrestrwch yma.  

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae angen cofrestru i weld sesiynau’r gynhadledd rithiol. Bydd pob sesiwn wedi’i recordio, felly os ydych chi’n methu sesiwn, gallwch ei gwylio ar y wefan hon.

 

Sgyrsiau ynghylch yr Hinsawdd (4 Rhagfyr​ 2023 i 31 Ionawr 2024)

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth (gan gynnwys cyllid i dalu am gostau rhesymol) ar gyfer sefydliadau sydd â diddordeb mewn cynnal Sgyrsiau ynghylch yr Hinsawdd gyda’u rhwydweithiau eu hunain cyn Wythnos Hinsawdd Cymru, yn ystod yr wythnos ac ar ei hôl. Bydd hyn ar ffurf rhaglen strwythuredig o ddigwyddiadau allgymorth wyneb yn wyneb a rhithiol, i helpu i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth a chefnogi’r ymgynghoriaeth ar y Fframwaith Pontio Teg newydd. 
 

Calendr Digwyddiadau

Os ydych yn cynnal digwyddiad agored i gyd-fynd ag Wythnos Hinsawdd Cymru a hoffech i ni ei hyrwyddo ar ein Calendr Digwyddiadau, yna anfonwch y manylion drwy e-bost i walesclimateweek@freshwater.co.uk

 

 

Hygyrchedd          Cwcis         Datganiad hawlfraint       Polisi preifatrwydd gwefan       Telerau ac amodau