Llywodraeth Cymru
Baner digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru 2022- 21-25 Tachwedd

Gadewch i Ni Drafod Newid yn yr Hinsawdd - gan greu Cymru wyrddach, cryfach, tecach. 

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru 2022 yn canolbwyntio ar y penderfyniadau hinsawdd a’r cyfraniad pwysig y gall y cyhoedd eu gwneud er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Bydd digwyddiad eleni yn ffurfio rhan bwysig o’r ymgynghoriad ar y strategaeth genedlaethol newydd a fydd yn sefydlu’r egwyddorion arweiniol ynghylch sut all y llywodraeth, busnesau a’r cyhoedd gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. 

Bydd y ‘Strategaeth ar gyfer Ymgysylltiad Cyhoeddus a Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd (2022-2026)’ (lansiwyd ymgynghoriad ar 20 Hydref a daw i ben 14 Rhagfyr) yn pwysleisio’r angen am ymdrech genedlaethol ar raddfa na welwyd ei math erioed o’r blaen, yn cynnwys y sector cyhoeddus, busnesau, cymunedau ac unigolion, gyda phob un ohonynt yn gweithredu ar y cyd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a datblygu ein gwytnwch rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Bydd trafodaethau’n canolbwyntio ar heriau deuol yr argyfwng hinsawdd a chostau byw, y ffaith bod gweithredu’n fater o frys a’r cyd-fanteision sy’n gysylltiedig â newid y ffordd mae bob un ohonom yn byw ein bywydau. Bydd sesiynau’n ymdrin â rôl y polisïau a’r rhaglenni hinsawdd wrth helpu i ddarparu’r gefnogaeth gywir er mwyn galluogi pobl i weithredu. Bydd pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol yn thema ganolog, a’r modd y mae newid yn yr hinsawdd yn rhwystro’r cyfle i ddatrys rhai o’r anghydraddoldebau sydd wedi eu hymgorffori yn ein cymdeithas.

Bydd yr wythnos ei hun yn cynnwys cynhadledd rithiol (21-23 Tachwedd) a rhaglen o ddigwyddiadau ymylol yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru a hyd at 14 Rhagfyr yn unol â chyfnod ymgynghori'r Strategaeth. ​

 

Hygyrchedd          Cwcis         Datganiad hawlfraint       Polisi preifatrwydd gwefan       Telerau ac amodau