Nod yr ymgyrch Addunedau Hinsawdd yw sbarduno camau gweithredu gan y llywodraeth, busnesau a chymunedau i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Maent yn anelu at ddangos ymrwymiadau ar waith mewn gwahanol; ffyrdd, gan sicrhau bod pob rhan o’r gymdeithas yn cymryd rhan.
Rydym wedi cynnwys rhai enghreifftiau o’r addewidion sydd eisoes wedi’u gwneud, a sut allwch ddod o hyd i fwy o enghreifftiau o Gweithio gyda'n Gilydd i fod yn Sero Net.
Felly gwnewch eich addewid a gofynnwch i eraill weithredu a gwneud addewid eu hunain drwy fynd i https://www.smartsurvey.co.uk/s/rx0po/.