Os oes gennych chi wahoddiad agored i ddigwyddiad sy’n cyd-daro ag Wythnos Hinsawdd Cymru, ac yn awyddus inni ei hyrwyddo ar ein Calendr Digwyddiadau, anfonwch y manylion dros e-bost at walesclimateweek@freshwater.co.uk.
Dyddiad y digwyddiad: 22 Tachwedd
Amser y digwyddiad: 9.30 - 17.00
Lleoliad y digwyddiad: Arena Abertawe
Bydd y digwyddiad system gyfan hwn yn dod â mwy na 1500 o bobl ynghyd o bob sector busnes yn ein rhanbarth. Bydd yn creu diddordeb ac ymgysylltiad cadarn gan BBaChau a busnesau mawr, yn ogystal â’r byd academaidd, llywodraeth leol a phartneriaid rhanbarthol. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i'w fynychu ac yn agored i bawb.
Dyddiad y digwyddiad: 1 Rhagfyr
Amser y digwyddiad: 10.30 - 14.30
Lleoliad y digwyddiad: Parc Dyfnant, Dyfnant, Abertawe, SA2 7SH
Ymunwch â ni yn ystod Wythnos Genedlaethol Coed er mwyn sbriwsio ychydig ar un o’n parciau! Byddwn yn taenu, tynnu pyst a rhwymynnau, ymgymryd â gwaith tocio a phlannu blodau gwyllt.
Dyddiad y digwyddiad: 4 Rhagfyr
Amser y digwyddiad: 9.00 - 17:00
Lleoliad y digwyddiad: Stadiwm Dinas Caerdydd
Mae Positive Planet yn cyflwyno Diwrnod Gweithredu Llythrennedd Carbon i Gaerdydd!
Bydd dysgwyr yn dod ynghyd ar #DiwrnodGweithreduLlC i ddarganfod y wyddoniaeth sylfaenol y tu ôl i’r newid yn yr hinsawdd a sut, drwy gydweithrediad, allwn ni leihau ein heffaith amgylcheddol er mwyn gwrthdroi’r effeithiau. Mae ein cwrs hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn gwrs un diwrnod o hyd, wedi’i anelu at BBaChau er mwyn codi ymwybyddiaeth am gostau carbon ac effeithiau gweithgareddau dydd i ddydd a rhoi hwb i allu a chymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigol, gymunedol a sefydliadol.
Fel arfer, mae dysgwyr sy’n cymryd rhan yn arbed rhwng 5-15% o garbon, ac yn datblygu dealltwriaeth o sut fydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnyn nhw a’r bobl o’u cwmpas, yn ddaearyddol ac yn sectoraidd. Mae’n annog dysgwyr i gysylltu ag unigolion o’r un anian â nhw a rhannu syniadau creadigol ynghylch sut i leihau eu heffaith, ar lefel unigol ac ar lefel busnes, gan wella eich natur gystadleuol a gwella proffil ac enw eich sefydliad.
Dyddiad y digwyddiad: 5 Rhagfyr
Amser y digwyddiad: 14:00 - 17:00
Lleoliad y digwyddiad: M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Menai, Ynys Môn, LL60 6AG
Dyma gyfle ichi gymysgu â chyflogwyr, ac i gyflogwyr gymysgu ag unigolion sy’n chwilio am waith er mwyn dod o hyd i’r bartneriaeth berffaith.
Yn y digwyddiad hwn, bydd yr holl gyflogwyr yn RECRIWTIO o fewn y Sector Ynni a Charbon Isel, felly mae'n gyfle i CHI sicrhau cyfweliad! Dewch draw, ewch amdani, ac ewch ati i rwydweithio. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r ffair yrfaoedd go wahanol hon. Gall y mathau o swyddi gynnwys: Peirianwyr, Swyddogion Marchnata, Rheolwyr Prosiect, Ymchwilwyr, Technegwyr a mwy.
OS YDYCH CHI’N CHWILIO AM WAITH – Gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi, a’ch bod yn hyderus - bydd gofyn ichi roi cyflwyniad (opsiynol) byr i’r cyflogwyr. Dewch â’ch portffolio neu CV cyfredol gyda chi hefyd.
OS YDYCH CHI’N GYFLOGWR – Dewch draw i’r digwyddiad hwn os ydych yn recriwtio ar hyn o bryd, ar fin recriwtio, neu’n ystyried recriwtio, a byddwch yn barod ac yn agored i siarad â phobl sy’n chwilio am waith.
Dyddiad y digwyddiad: 6 Rhagfyr
Amser y digwyddiad: 13:00
Lleoliad y digwyddiad: Rhithiol
Ymunwch â Route2 yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru am weminar ddadlennol mewn perthynas â Chyfrifeg Value2Society™. Byddwn yn eich tywys drwy'r broses o fesur eich effaith gymdeithasol ac yn cyfathrebu cyfanswm gwerth eich mentrau cynaliadwyedd, gan eich galluogi i ddenu buddsoddwyr, sicrhau cyllid, a gwneud penderfyniadau sy'n cael eu hysgogi gan ddata sy'n sbarduno newid cadarnhaol.
Dyddiad y digwyddiad: 6 Rhagfyr
Amser y digwyddiad: 18:00 - 19:45
Lleoliad y digwyddiad: Rhithiol
Rydym i gyd yn gwybod y gall dathliadau’r Nadolig fod yn eithaf trwm ar ein waledi; sut allwn ni leihau’r gost a bod yn fwy ystyriol o’r blaned ar yr un pryd? Mae'r gweithdy hwyl yr ŵyl yn llawn syniadau, o fwyd ac addurniadau, i anrhegion, a fydd yn eich rhoi ar ben ffordd i fwynhau Nadolig gwyrdd!
Bydd y sesiwn hon yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n gweithio o fewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac sy’n awyddus i arbed arian, a lleihau gwastraff a’u hôl-troed hinsawdd dros y Nadolig - felly pawb sydd wrth eu bodd yn dathlu gyda theulu a ffrindiau yn ystod mis Rhagfyr!
Dyddiad y digwyddiad: 7 Rhagfyr
Amser y digwyddiad: 9.30 - 17.00
Lleoliad y digwyddiad: Ar-lein
Sut all cymunedau gymryd y camau nesaf i gyflawni pontio teg a sut dylem ddechrau gweithredu’r cynlluniau Prydain Carbon Sero lleol?
Bydd cwrs Prydain Carbon Sero newydd Canolfan y Dechnoleg Amgen yn archwilio sut all cymunedau fodloni heriau’r argyfyngau bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd orau mewn cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol – mae’r wyddoniaeth yn dweud bod yn rhaid i ni, mae’r dechnoleg yn dweud bod gennym y gallu, felly mae’n amser i ni fynd amdani!
Gan dynnu ar ein profiad cynhwysfawr o weithio â chymunedau ac awdurdodau lleol, ac ar ein gwaith ymchwil Prydain Carbon Sero mewnol blaenllaw ac arbenigedd Ysgol yr Amgylchedd i Ôl-raddedigion y ganolfan, mae’r tîm Prydain Carbon Sero yn eich gwahodd chi i ymuno â ni ar gyfer diwrnod o drafodaethau a dysgu rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar y cwestiwn allweddol: beth nesaf i’ch cymuned?
Dyddiad y digwyddiad: 7 Rhagfyr
Amser y digwyddiad: 12pm
Lleoliad y digwyddiad: Rhithiol
Mae ZeruEarth yn danysgrifiad gweithredu dros yr hinsawdd, sy’n eithaf newydd i’r byd Newid yn yr Hinsawdd, a byddwn yn cynnig cyfle ichi dynnu carbon o’r atmosffer drwy eich arferion gwario o ddydd i ddydd. Yn y sgwrs Technoleg Hinsawdd hon gyda Robert Gardener, byddwn yn trafod pwysigrwydd Cyd-weithredu tra bod Rob yn COP28. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad hwn, welwn ni chi’n fuan!
The Voyage of Arka Kinari |
Dyddiad y digwyddiad: 7 Rhagfyr |
Amser y digwyddiad: 19.30 - 20:15 |
Lleoliad y digwyddiad: Ar-lein |
Taith at Ymwybyddiaeth Hinsawdd |
Dyddiad y digwyddiad: 8 Rhagfyr
Amser y digwyddiad: 10.00 - 13.00 (wyneb yn wyneb) 11:00 - 11:30 (rhithiol)
Lleoliad y digwyddiad: Yr Eglwys Norwyaidd (Allanol), Rhodfa’r Harbwr, Caerdydd CF10 4PT
Mae Nellie yn gwmni o Gymru sy’n adeiladu peiriannau cipio carbon bio-beirianneg cyffrous.
Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, bydd Nellie yn cyflwyno eu technolegau Cipio Carbon Aer Uniongyrchol Symudol (“MDAC”) ym Mae Caerdydd ar 8 Rhagfyr 2023, rhwng 10:00 - 13:00.
Ymunwch â Nellie a’u peiriant cipio carbon gwyrdd, mawr, y tu allan i’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd er mwyn dysgu sut maent yn adeiladu ac yn lleoli systemau cipio carbon ffynhonnell aer uniongyrchol a phwynt i liniaru effeithiau negyddol y newid yn yr hinsawdd yma yng Nghymru.
Mae hwn yn ddigwyddiad hybrid, y gallwch ei fynychu wyneb yn wyneb (gwisgwch yn gynnes, a dewch ag ymbarél gyda chi!), neu gallwch fynychu’r sesiwn Gofyn Unrhyw Beth Cipio Carbon am 11:00 gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Mae Nellie yn sefydliad cynhwysol, ac rydym yn croesawu diddordeb yn ein technolegau gan bawb. Os hoffech chi fynychu wyneb yn wyneb neu ar-lein, ac os oes gennych chi ystyriaethau hygyrchedd, cysylltwch â ni i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cynnig y profiad gorau posibl i chi. Er bod nifer o aelodau ein tîm yn siarad (neu’n dysgu) Cymraeg, dim ond drwy Saesneg mae ein cyflwyniadau a sesiwn Holi ac Ateb ar gael ar hyn o bryd. Mae’r arddangosiad yn bosibl diolch i gefnoaeth Innovate UK.