Bydd rhaglen o Sgyrsiau Hinsawdd yn cael ei chynnal yn ystod ac ar ôl Wythnos Hinsawdd Cymru eleni (drwy gydol mis Rhagfyr a hyd at ddiwedd Ionawr 2024). Nod y digwyddiadau hyn yw annog trafodaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ar sut y gallwn fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg.
Mae dros 40 o ddigwyddiadau Sgwrs Hinsawdd wedi'u trefnu i gael eu cynnal ledled Cymru. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ond yn cael eu trefnu a’u cynnal gan ystod o wahanol sefydliadau a wnaeth gais llwyddiannus i gymryd rhan yn y rhaglen.
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn cyd-daro ag ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar Fframwaith Teg newydd. Mae hyn yn dilyn Galwad am Dystiolaeth a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2022 a roddodd gyfle cychwynnol i lunio sut y bydd y Fframwaith newydd hwn yn edrych.
Pwrpas y Sgyrsiau Hinsawdd fydd casglu tystiolaeth i gefnogi’r ymgynghoriad ar y Fframwaith newydd a sicrhau bod safbwyntiau’n cael eu clywed gan gynifer o bobl â phosibl. Bydd y canlyniadau allweddol o’r Sgyrsiau Hinsawdd yn cael eu crynhoi mewn adroddiad terfynol a gyhoeddir yn 2024 ochr yn ochr â chanfyddiadau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth am drefnu Sgwrs Hinsawdd, lawrlwythwch y Pecyn Trefnydd Sgwrs Hinsawdd isod:
Dyddiad a lleoliad y digwyddiad:
4 Rhagfyr 23: Coleg Cambria Llaneurgain, Ffordd Treffynnon, Llaneurgain, Yr Wyddgrug, CH7 6AA
5 Rhagfyr 23: Coleg Cambria Llysfasi, Ffordd Rhuthun, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2LB
6 Rhagfyr 23: Coleg Cambria Ffordd y Bers, Wrecsam, LL13 7UH
7 Rhagfyr 23: Coleg Cambria Iâl, Ffordd Parc y Gelli, Wrecsam, LL12 7AB
12 Rhagfyr 23: Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy, Ffordd Celstryn, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 4BR
Amser: 12-2pm
Disgrifiad:
Bydd rhaglen o Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn cael ei chynnal ar draws Coleg Cambria yn ystod ac ar ôl Wythnos Hinsawdd Cymru eleni. Y nod yw annog sgyrsiau gyda phobl ifanc a’r gymuned leol ynghylch sut allwn ni fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd mewn ffordd deg. Bydd pob digwyddiad wedi’i hwyluso gan Arbenigwyr Cynaliadwyedd, aelodau’r Grŵp Cynaliadwyedd, a Swyddogion Cynaliadwyedd Llais y Dysgwyr. Bydd y digwyddiadau amser cinio’n cynnig cyfle i gyfranogwyr ddysgu am y newid yn yr hinsawdd, rhannu eu profiadau, a datblygu syniadau am gamau gweithredu.
Digwyddiad agored
Dyddiad y digwyddiad: 6 Rhagfyr 23
Amser: 10:00 - 14:15
Lleoliad: Ysgol Bassaleg, Forge Road, Casnewydd, NP10 8NF
Disgrifiad:
Mae Ail Gynnig Pobl Ifanc ac Athrawon yn cynnwys saith ysgol o ledled de Cymru. Bydd tua hanner cant o fyfyrwyr TGAU a Safon Uwch yn gweithio gyda’i gilydd, gyda’u hathrawon, i ailddiffinio ac egluro’r hawl addysg hinsawdd drafft a ddatblygwyd yng nghynhadledd Caerdydd ym mis Mehefin 2023. Bydd y digwyddiad hwn yn atgyfnerthu’r rhwydwaith unigryw o ddisgyblion, athrawon, ysgolion a gweithwyr proffesiynol sy’n cydweithio ar wella addysg hinsawdd yng Nghymru. Bydd yr hawl addysg hinsawdd, sy’n dod o ddosbarthiadau yng Nghymru, yn llywio a grymuso ymarferwyr addysg a llunwyr polisïau i gefnogi’r genhedlaeth hon, a chenedlaethau'r dyfodol, wrth liniaru ac addasu i’r byd newidiol. Bydd cyfranogwyr ar y diwrnod hefyd yn cael trafod dull Cyfnod Pontio Teg Llywodraeth Cymru fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru 2023.
Digwyddiad drwy wahoddiad yn unig
Dyddiad: 6 Rhagfyr 23
Amser: 12:00 - 14:30
Lleoliad: Caffi cymunedol y Ddaear, Tŷ’r Goron, 11 Stryd y Ffynnon, Rhuthun
Disgrifiad:
Dewch draw i gaffi cymunedol Cwmni Buddiannau Cymunedol AdNewyddu am sgwrs anffurfiol a chyfeillgar yn archwilio ‘sut allwn ni fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd mewn ffordd deg’ dros bowlen gynnes o gawl. Mae’r digwyddiad yn agored i bawb ac yn addas i bobl sy’n newydd i’r sgwrs ynglŷn â’r hinsawdd yn ogystal â phobl sydd eisoes ynghlwm â’r mater. Byddwn yn cloi'r sesiwn gyda ‘gweithgaredd ymarferol' a fydd yn cynnwys defnyddio offer prosesu plastig AdNewyddu i greu eitem unigryw. Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Wythnos Gweithredu Dros yr Hinsawdd.
Digwyddiad agored
Dyddiad: 9 Rhagfyr 23
Amser: 10:00 - 16:00
Lleoliad: Canolfan CRiC, Stryd Beaufort, Crucywel, NP8 1BN
Teitl y Digwyddiad:
Yn y digwyddiad hwn mae LGV yn ceisio barn ar sut i ddatblygu cynlluniau ar gyfer fferm ynni fawr sy'n eiddo i'r gymuned mewn ffordd deg yn ein cymunedau gwledig. Bydd y cynllun yn defnyddio amrywiaeth o dechnolegau cynhyrchu a storio felly galwch draw i'r Ganolfan Adnoddau a Gwybodaeth Gymunedol, 10am i 4pm, ar Stryd Beaufort, Crucywel (NP8 1BN); siarad â ni i ddysgu mwy a dweud wrthym sut y gallwn ddeall barn ac anghenion ein cymuned yn well, a rhoi gwybod i chi am ein cynnydd. Gallwch hyd yn oed gael paned a chacen!
Dyddiad y digwyddiad: 6 Ionawr 24
Lleoliad y digwyddiad: Canolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor (BACC), 346 Y Stryd Fawr. LL57 1YA, Bangor Gwynedd
Amser: 11:00-13:00
Disgrifiad:
Mae cymdeithasau Affricanaidd Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru’n dioddef sawl bygythiad economaidd-gymdeithasol i’w bywoliaethau. Datgelwyd a chyhoeddwyd tystiolaeth o adroddiad Grŵp Cynghori BAME COVID-19 y Prif Weinidog ar yr is-grŵp economaidd-gymdeithasol a arweiniwyd gan yr Athro Ogbonna yn 2020. Mae sawl menter wedi codi fel dilyniant i ddatblygiad a chyflwyno Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, ac maent yn cael eu gweithredu i ymgysylltu â chymunedau Lleiafrifoedd Ethnig yn unol â chyflawni datrysiadau cynaliadwy i’r argyfyngau hinsawdd a natur yng Nghymru. Mae Sgyrsiau Hinsawdd, a noddir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle i ymgysylltu (trafod) â Gweithwyr Proffesiynol ac Ymarferol yn y sector Amgylcheddol sy’n dod o gymunedau Lleiafrifoedd Ethnig, yn ogystal â myfyrwyr, teuluoedd, merched, pobl anabl etc (Pawb). Teitl y digwyddiad hwn yw ‘Lleisiau cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru mewn perthynas â Phontio Teg, Cyfiawnder Cymdeithasol a Hinsawdd a Chyllid Hinsawdd. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor (BACC). Bangor, Gwynedd.
Digwyddiad agored
Dyddiad y digwyddiad: 13 Ionawr 23
Amser: 13:00 - 15:00
Lleoliad: Prosiect Gerddi Global, Rhandiroedd Flaxland, Whitchurch Road, CF14 3NE
Disgrifiad:
Ymunwch â ni am sgwrs hinsawdd yn y prosiect tyfu cymunedol, Prosiect Gerddi Global. Byddwn yn archwilio sut i weithredu dros yr hinsawdd yn unigol ac fel cymuned, a'r camau yr ydym eisiau eu gweld yn cael eu gwneud ar lefel genedlaethol.
Bydd ffocws penodol ar rôl bwyd o fewn dyfodol cymunedol cynaliadwy.
Digwyddiad agored
Dyddiad: 19 Ionawr 24
Teitl y Digwyddiad:
Digwyddiad rhyngweithiol wedi’i arwain gan y Pwyllgor Eco ar gyfer eu cyfoedion, rhieni a gofalwyr, a’r gymuned ehangach, er mwyn helpu i lywio gwell dealltwriaeth o sut beth fydd cyfnod pontio teg at ddull sy’n amgylcheddol ystyrlon i’n cymuned.
Digwyddiad drwy wahoddiad yn unig
Teitl y Digwyddiad:
Sefydliad:
Dyddiad:
Amser:
Lleoliad:
Teitl y Digwyddiad:
Dyddiad y digwyddiad: 22 Ionawr 24
Amser: 10:00 - 15:30
Lleoliad: YMA, Pontypridd
Disgrifiad:
Digwyddiad ar y cyd rhwng RHA Wales a Rhwydwaith Gweithredu dros yr Hinsawdd Rhondda Cynon Taf, wedi’i anelu at ddiweddaru’r gymuned leol ar gamau gweithredu dros yr hinsawdd, a rhoi llais iddynt mewn perthynas â dyheadau ehangach Cymru tuag at gyfnod pontio teg a gwyrdd.
Digwyddiad drwy wahoddiad yn unig
Dyddiad y digwyddiad: 25 Ionawr 24
Amser: 10:00 - 19:00
Lleoliad: Hwb Cymunedol Twynyrodyn
Disgrifiad:
Nod y digwyddiad hwn yw hwyluso man lle caiff mynegiadau, barn a theimladau eu clywed drwy ein sesiynau rhyngweithiol sy’n annog pobl i feddwl, ein byrddau sgwrsio hwyliog a thrwy ddangos ein ffyrdd ein hunain o wynebu'r newid yn yr hinsawdd drwy ein gerddi eco, ein gweithgareddau a'n canlyniadau. Bydd y diwrnod yn cynnwys garddio a thyfu bwyd, trochi pyllau a chwarae yn y mwd, ochr yn ochr â chelf a chrefft drwy sesiynau arweiniol yn seiliedig ar ddechrau'r sgwrs, ynghyd â lluniaeth a bwffe o fyrbrydau.
Digwyddiad agored
Dyddiad y digwyddiad: 30 Ionawr 24
Lleoliad: FareShare Cymru, Uned S5, Parc Busnes Capital, Caerdydd CF3 2PU
Disgrifiad:
FareShare Cymru yw elusen ailddosbarthu bwyd mwyaf Cymru, yn gweithio gyda chyflenwyr yn y diwydiant bwyd i gael mynediad at fwyd dros ben. Mae’r bwyd yn cael ei ailddosbarthu i elusennau sy’n cynnal prosiectau bwyd ledled Cymru. Dewch i glywed prosiectau cymunedol yn trafod sut maent yn cefnogi defnyddwyr eu gwasanaeth gyda chynaliadwyedd fforddiadwy. Byddwch hefyd yn cael cyfle i fynd ar daith o gwmpas warws FareShare.
Digwyddiad agored (drwy gadw eich lle ymlaen llaw)
Cadwch eich lle yma