Seremoni Agoriadol
Mae gofyn i bawb weithredu ar newid hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Wythnos Hinsawdd Cymru i ddod â phobl ledled Cymru ynghyd i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Y thema ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yw tegwch, a bod yn rhaid i atebion sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn meithrin gwytnwch i'r newid gael eu hysgogi gan yr egwyddor arweiniol o beidio gadael neb ar ôl. Bydd digwyddiad eleni yn edrych ar effeithiau anghymesur newid hinsawdd ar wahanol bobl, grwpiau a lleoedd, ac yn mynd i'r afael â sut y gallwn sicrhau bod buddion cysylltiedig â pholisïau hinsawdd yn cael eu dosbarthu'n deg ar draws y gymdeithas.
Byddwn yn archwilio'r cysylltiad rhwng atebion sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd a'r argyfwng costau byw. Y nod fydd dyfnhau ein dealltwriaeth ar y cyd o'r rhwystrau sy'n wynebu diwydiant a busnes, rhanbarthau, cymunedau ac aelwydydd ledled Cymru, camau sydd eisoes yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhwystrau, ac atebion eraill sydd eu hangen yn y dyfodol.
Bydd rhaglen ddigwyddiadau eleni yn cyd-fynd ag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Fframwaith Pontio Teg newydd er mwyn sicrhau ein bod yn clywed barn cynifer o bobl â phosib. Bydd safbwyntiau amrywiol yn cael eu cynrychioli a bydd y lleisiau hynny na fyddent yn cael eu clywed fel arall yn cael eu cynnwys.
Bydd y sesiwn hon yn gosod y cyd-destun ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru. Wrth i arweinwyr ddod ynghyd ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru, mae arweinwyr y byd yn dod at ei gilydd yn COP28, i ganolbwyntio ar stoc-gyfrif byd-eang y cynnydd a wnaed ar Gytundeb Paris. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau tegwch yng nghyfnod pontio Sero Net ar lefel Cymru a lefel byd-eang.
Mae cyfnod pontio teg yn cydnabod bod newidiadau economaidd yn angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â heriau fel y newid yn yr hinsawdd. Mae newid at economi fwy cynaliadwy a charbon isel yn golygu mynd i'r afael â'r effaith ar swyddi a sgiliau wrth inni symud oddi wrth economi sy'n ddibynnol iawn ar ddiwydiannau penodol, yn aml yn garbon uchel neu'n niweidiol i'r amgylchedd, i un sy'n fwy cynaliadwy, ecogyfeillgar a chyfrifol gymdeithasol.
Gall y cyfnod pontio economaidd gael effaith sylweddol ar weithwyr, cymunedau a’r economi ehangach. Mae cadw ac uwchsgilio gweithwyr; creu cyfleoedd cyflogaeth mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy a thechnolegau gwyrdd; a sicrhau bod buddion y pontio’n cael eu rhannu’n deg yn ffyrdd o gyflawni cyfnod pontio teg.
Diben a chanlyniadau a awgrymir:
- Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r heriau rydym yn eu hwynebu oherwydd yr argyfyngau hinsawdd a natur a sut ellir mynd i’r afael â’r rhain mewn ffordd deg a chyfiawn, gyda ffocws ar swyddi a sgiliau.
- Byddwn yn trafod enghreifftiau o arfer da a chynnydd - ac yn nodi cyfleoedd a heriau cyffredin.
- Bydd panelwyr rhyngwladol yn gallu rhannu enghreifftiau o arfer da gyda chynulleidfa yng Nghymru.
- Byddwn yn rhannu gwersi o’r gweithdy hwn gyda chyrff cyhoeddus yng Nghymru.
- Yn ogystal â hyn, byddwn yn ceisio cefnogi cysylltiadau rhwng llywodraethau is-wladwriaeth er mwyn nodi’r potensial ar gyfer cydweithredu a chyfnewid yn y dyfodol.
Gall addysg annog pobl i newid eu hagweddau a’u hymddygiad, a gall helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus.
Gall addysg rymuso a chymell pobl i weithredu dros yr hinsawdd, ond weithiau mae’n anodd gwybod pa bethau y gellir eu gwneud a sut i fwrw ymlaen â’r gweithredu hwnnw.
Gan fod Wythnos Hinsawdd Cymru yn canolbwyntio ar degwch, mae hi’n hanfodol i bobl ifanc gael dweud eu dweud a chael cyfleoedd i ddeall y materion sy’n berthnasol i’r argyfwng hinsawdd a’r hyn y gallant ei wneud yn ei gylch.
Bydd y sesiwn hon rhoi cyfle i blant a phobl ifanc glywed am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru a dweud eu dweud, yn ogystal â deall pa gamau y gallwn eu cymryd yn ein hysgolion/cymunedau
- y modd y symudwn o gwmpas (e.e. beicio yn hytrach na gyrru)
- y modd rydym yn bwyta (e.e. bwyd lleol, bwyd tymhorol, bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion)
- y modd y defnyddiwn bethau (e.e. trwsio pethau yn hytrach na’u prynu, a phrynu pethau ail law yn hytrach na phethau newydd)
- y modd y siaradwn (e.e. gofyn am finiau ailgylchu yn ein meysydd chwarae os nad oes rhai yno yn barod)
Sesiwn yn archwilio arweinyddiaeth newid hinsawdd y sector cyhoeddus ar waith: ‘Not the usual suspects’ - Gwaith archwilio ac arloesi a gynhelir yng Nghymru ar hyn o bryd.
Cynulleidfa:
Bwriedir y sesiwn hon ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn datgarboneiddio o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a’r gweithredoedd arloesol sy’n cael eu hymgymryd yn y maes hwn ledled Cymru.
Ymunwch â Chadeirydd ac aelodau Grŵp Her 2035 Sero Net Cymru i archwilio eu gwaith a sut maent yn cynllunio mynd i’r afael â chyfnod pontio teg ar gyfer Cymru.
Sefydlwyd Grŵp Her 2035 Sero Net Cymru ym mis Ionawr 2023 er mwyn cyflawni ymrwymiad penodol o fewn y Cytundeb Cydweithredol ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae Cytundeb Cydweithredol Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru (2021) wedi ymrwymo i “gomisiynu cyngor annibynnol er mwyn archwilio llwybrau posibl at gyrraedd sero net erbyn 2035 – y dyddiad targed presennol yw 2050. Bydd hyn yn mynd i’r afael â’r effaith ar gymdeithas a sectorau ein heconomi, a sut ellir lliniaru unrhyw effeithiau niweidiol, gan gynnwys sut i rannu’r costau a’r buddion yn deg”.