Cymunedau
Bydd y sesiwn hon yn uno sefydliadau a grwpiau amrywiol sy’n ceisio mynd i'r afael ag ôl-troed datgoedwigo tramor Cymru drwy sicrhau bod ein harferion ffermio a bwyd yn foesegol ac wedi'u caffael yn gynaliadwy. Byddwch yn clywed gan Gyrff Anllywodraethol, ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau gweithredu cymunedol yn trafod pa gamau maent yn eu cymryd i sicrhau bod Sir Fynwy’n dod yn rhydd rhag Datgoedwigo. Mae’n gyfle i glywed enghreifftiau ysbrydoledig o gamau wedi’u harwain gan ddinasyddion sy’n rhoi’r nod o fod yn Genedl Wydn a Chyfrifol yn Fyd-eang ar waith. Bydd hefyd yn adlewyrchu’r ffordd mae ein camau yma yng Nghymru’n effeithio ar Bobl Gynhenid tramor sy’n wynebu anghyfiawnderau’r argyfwng hinsawdd, a gweld eu coedwigoedd, cartrefi a chwalfa hinsawdd yn cael eu difetha oherwydd y galw am nwyddau yr ydym yn eu defnyddio yma yng Nghymru o ddydd i ddydd, fel olew palmwydd, soi a ddefnyddir mewn bwyd i anifeiliaid, cig eidion o Dde America, coffi a choco.
Cynulleidfa:
Mae’r sesiwn hon wedi'i hanelu at grwpiau cymunedol, ysgolion, pobl ifanc, ffermwyr, awdurdodau lleol, busnesau ac unigolion sy’n gwneud penderfyniadau sydd eisio bod yn gyfrifol yn fyd-eang a mynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy ddinasyddion yn ymgysylltu â chamau.
Mae Egin yn gweithio i helpu grwpiau sydd wedi cael eu heithrio’n hanesyddol o sgyrsiau am y newid yn yr hinsawdd er mwyn cymryd y camau cyntaf tuag at fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Yn y sgwrs hon sydd wedi'i chynnal ar y cyd gan Labordy Cyd-gynhyrchu Cymru, byddwn yn clywed gan ddetholiad o grwpiau yr ydym wedi bod yn gweithio â nhw. Sut mae pobl anabl, grwpiau lleiafrifoedd ethnig, neu bobl sy’n byw mewn amddifadedd economaidd yn uniaethu â’r syniad o weithredu dros yr hinsawdd? Beth mae’r grwpiau hyn eisiau ei rannu gyda llunwyr polisi a llywodraeth?
Noder: Hoffem nodi bod argaeledd, llythrennedd technegol a hyder i hyd yn oed ddangos ar banel yn fraint, ac felly mae’r panel hwn yn annhebygol o gynrychioli pawb yng Nghymru. Fodd bynnag, gan fod ein siaradwyr yn gweithio ac yn rhyngweithio â chymunedau nad oes ganddynt y gallu na’r mynediad hwn, byddant yn anelu at wneud eu gorau i gynrychioli pryderon, barn ac ymatebion i'r syniad o ‘newid hinsawdd a thegwch’.
Mae Egin yn rhaglen wedi’i chynnal gan Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru
Cynulleidfa
Unrhyw un sydd eisiau clywed beth yw gwir farn cymunedau ar lawr gwlad Cymru. O ddiddordeb arbennig i lunwyr polisi ac unrhyw un sy'n awyddus i weithio gyda grwpiau sydd wedi'u hymyleiddio a'u tangynrychioli'n hanesyddol.
Elusen ailddosbarthu bwyd yw FareShare Cymru. Rydym yn cael bwyd dros ben gan y diwydiant bwyd ac yn ei ailddosbarthu i elusennau sy'n rhedeg prosiectau bwyd i gefnogi pobl sy’n agored i niwed, gan droi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol. Byddwn yn trafod y defnydd o fwyd dros ben gyda thair o'r elusennau rydym ni’n gweithio gyda nhw, Foodcycle, Tasty Not Wasty a Phantri Stryd Wyndham yng Nghanolfan Datblygu Cymunedol De Riverside, gan drafod y ffordd mae'r prosiect yn helpu i leihau gwastraff bwyd ac yn addysgu eu defnyddwyr ar hyn, i leihau gwastraff bwyd yn y cartref yn ei dro.
Cynulleidfa
Bydd y sesiwn yn drafodaeth banel yn edrych ar sut mae bwyd dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cymunedau ac anelir y sesiwn at unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am brosiectau bwyd cymunedol.
Mae bwyd yn bwynt mynediad perffaith i ddangos sut y gall grym gweithredoedd bach ein hysbrydoli i fyw o fewn terfynau planedol, fel unigolion ac ar y cyd. Drwy rannu pymtheng mlynedd o brofiadau ar lawr gwlad, y cadarnhaol a'r negyddol, byddwn yn archwilio faint y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i arddangos y newidiadau y mae eu hangen ar bob un o lefelau'r llywodraeth i helpu pawb i fod yn Ysgogwr Newid a'r hyn y gallwn ni ein hunain ei gyflawni yn ein hardaloedd ein hunain heb fod angen ymyrraeth o'r brig i lawr.
Cynulleidfa
Gweithredwyr newid hinsawdd, partneriaethau bwyd lleol a gweithwyr proffesiynol ar draws y sector cyhoeddus a phreifat.
Pa mor aml y clywn ein bod angen atebion cymunedol i’r hinsawdd neu mai cymunedau sy’n gwybod orau?
Pa mor aml y clywn ein bod angen gweithredu cymunedol a bod angen i rai cymunedau ymgysylltu i raddau helaethach â’r hinsawdd o’u cymharu â chymunedau eraill?
Ond gall cymunedau olygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ac o’r herwydd gall nifer o ystyron gwahanol fod ynghlwm wrth ein canfyddiad o ‘weithredu cymunedol priodol dros yr hinsawdd’.
Yn y sesiwn hon, rydym eisiau dadansoddi’r gwahanol ystyron sy’n perthyn i ‘gymunedau’ er mwyn gweld a yw’r ffordd y diffiniwn gymunedau yn dylanwadu ar ganlyniadau hinsawdd, mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol. Bydd ein panel o sefydliadau cymunedol yn rhannu eu profiadau a’u dealltwriaeth, a hefyd byddwn yn gwahodd yr holl gyfranogwyr i gyflwyno’u syniadau a gofyn eu cwestiynau eu hunain.
Y Gynulleidfa
Caiff y sesiwn ei hanelu at bwy bynnag sydd eisoes yn cymryd rhan mewn cymunedau a’r rhai sydd â diddordeb mewn ehangu ystyr cymunedau.
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru a’n nod yw galluogi pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach. Bydd ein sesiwn yn Wythnos Hinsawdd Cymru yn tynnu sylw at enghreifftiau o’r gwaith a wnawn i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd y cyhoedd, yn cynnwys strategaethau, ymchwil, datblygu’r gweithlu, Asesu’r Effaith ar Iechyd ac ymyriadau seiliedig ar ymarfer sy’n cynorthwyo gwasanaethau’r GIG ar eu siwrnai tuag at sero net, gwytnwch a chynaliadwyedd.
Y Gynulleidfa
Pobl â diddordeb yn y modd y mae newid hinsawdd yn effeithio ar iechyd a llesiant cymunedau yng Nghymru. Pobl sy’n gweithio yn y GIG, mewn gofal cymdeithasol ac mewn llywodraeth leol. Pobl sy’n gweithio ar draws sectorau’n ymwneud â chyfathrebu newid hinsawdd a pholisïau a strategaethau newid hinsawdd.
Mae gan Gymru nod o fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Er mwyn cyflawni hyn mae cynllun gweithredu wedi ei gyd-gynhyrchu i 'wella bywydau pobl o leiafrifoedd ethnig yn sylweddol trwy fynd i'r afael â hiliaeth'. Ym mhob cefndir mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn profi hiliaeth, nid yw gweithredu ar newid hinsawdd yn ddim gwahanol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda grwpiau cymunedol lleiafrifoedd ethnig am eu profiadau a'u huchelgeisiau mewn perthynas â gweithredu ar newid hinsawdd a materion amgylcheddol ehangach. Mae'r drafodaeth banel hon yn dod â'r grwpiau cymunedol at ei gilydd i siarad am drafodaethau a phrofiadau eu grwpiau a'r newidiadau yr hoffent eu gweld. Bydd Cynghorydd Gwrth-hiliaeth Amgylcheddol Llywodraeth Cymru yn rhan o’r drafodaeth.
Cynulleidfa
Mae'r sesiwn wedi'i hanelu at weithwyr proffesiynol ym maes yr hinsawdd a'r amgylchedd sydd â diddordeb mewn creu sector mwy cynhwysol o ran cyflogaeth, mannau hamdden a gweithredu. Mae hefyd wedi'i hanelu at bobl o gefndir ethnig leiafrifol, i glywed am brofiadau pobl eraill ac ystyried y mathau o gamau y gallai cymdeithas eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â hiliaeth yn y maes hwn. Dechrau’r sgwrs yw nod y sesiwn er mwyn datblygu cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer sectorau'r amgylchedd a newid hinsawdd.
Tirlun lle ceir gofal iechyd doeth o ran hinsawdd ar draws Gofal Iechyd Sylfaenol, Eilaidd a Meddyliol yng Nghymru.
Y Gynulleidfa
Pob cymuned gofal iechyd sy’n dymuno ‘Cysylltu, Dysgu a Thrawsnewid’ amgylcheddau gofal iechyd ledled Cymru.